Crist yw yr unig ffordd at Dduw

(Goludoedd Gras Crist)
Crist yw yr unig ffordd at Dduw,
  A gwiw yw rhodio ynddi;
Efe yw'r pur wirionedd maith,
  Y gyfraith a'r proffwydi.

Efe yw'r drws i'r nefoedd wen;
  Efe yw'r Seren fore
Sydd yn goleuo tir a môr;
  Efe yw'r trysor goreu.

Efe yw'n Duw, Efe yw'n Brawd,
  A ddwg ein gwawd a'n cystudd;
Ein Priod yw, a'n hunig Ben,
  Ein Cadben, a'n Gwaredydd.

O tyred, Iesu, Frenin cred,
  O tyred at D'anwylyd;
Wele ni'n dyfod ar Dy ol,
  Dod in' dragwyddol fywyd.
Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd 1921

Tôn [MS 8787]: Oldenburg (J H Schein 1586-1630)

gwelir: Iesu a wnaethpwyd gan Dduw'r Tad

(The Riches of the Grace of Christ)
Christ is the only way to God,
  And worthy it is to walk in it;
He is the vast, pure truth,
  Of the law and the prophets.

He is the door to blessed heaven;
  He is the morning Star
Which is lighting land and sea;
  He is the best treasure.

He is our God, He is our Brother,
  Who took our scorn and our affliction;
Our Spouse he is, and our only Head,
  Our Captain, and our Deliverer.

O come, Jesus, the King of belief,
  O com to Thy beloved;
See us coming after Thee,
  Bring us eternal life.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~