Clywch yr alwad uchel

(Galwad i'r Frwydyr)
Clywch yr alwad uchel
  Gyda gwawr y dydd,
Parotowch i ryfel
  Heddiw dros y ffydd;
Gwisgwch yr arfogaeth
  Brofwyd yn y tān,
Helm yr iachawdwriaeth
  Cledd yr Ysbryd Glān.

    Ti yr Hwn orchfygaist
      Gynt ar Galfari,
    Ar Dy alwad rasol,
      Parod ydym ni.

Gwelwch rymus luoedd
  Satan, cnawd, a byd
Megis dig fyddinoedd
  Yn crynhoi ynghyd;
Gwisgwch yr arfogaeth
  Drefnwyd ar eich rhan;
Cewch y fuddugoliaeth
  Er nad ych ond gwan.

Trech na brad gelynion
  A'u cynllwynion cas,
Yw yr addewidion
  Roddodd Dwyfol ras;
Ymddirewch ynddynt
  Yn y frwydyr faith,
Yna canu am danynt
  Fyth eich bythol waith.
David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907

Tôn [6565T]: Hermas (Frances R Havergal 1836-79)

(Call to the Battle)
Hear ye the high call
  With the dawn of the day,
Prepare ye for battle
  Today for the faith;
Put on the armour
  Tested in the fire,
The helmet of salvation
  The sword of the Holy Spirit.

    Thou who didst overcome
      Of old on Calvary,
    At thy gracious call,
      Ready are we.

See ye the forceful hosts
  Of Satan, flesh and world
Like angry armies
  Gathering together;
Put on the armour
  Prepared on your behalf;
You will get the victory
  Although ye are only weak.

Mightier than the treachery of enemies
  And their detestable schemes,
Are the promises
  Divine grace gave;
Trust ye in them
  In the extensive battle,
Then singing about them
  Shall be your everlasting work.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~