Clyw f'enaid tlawd mae gen(n)yt Dad

(Rhan III)
Clyw, f'enaid tlawd, mae genyt Dad,
  Sy'n gwel'd dy fwriad gwan;
A Brawd yn eiriol yn y nef
  Cyn codi'th lef i'r lìn:
Cred nad diystyr gan dy Dad
  Yw gwrandaw gwaedd
      dymuniad gwiw,
Pe byddai d'enau yn rhy fud
  I'w dd'wedyd ger bron Duw.

Pan fyddwyf mewn rhyw ddirgel fan,
  Yn griddfan dan y groes,
Bron methu cerdded llawer cwm,
  Gan faich rhy drwm yn f'oes;
Daw weithiau feddwl imi fod
Mab Duw i'm canfod ym mhob Cell,
Na châf ddihoeni felly o hyd -
  Y gwawria bywyd gwell.
Pan fyddwyf :: Pan byddwyf

Edward Jones 1761-1836

Tonau [8686.8886]:
Abernant (<1835)
Cynddelw (<1875)

gwelir:
  Rhan I - (Mae'n) Llon'd y nefoedd llon'd y byd
  Rhan II - 'Does neb drwy'r nefoedd hawddgar heb
  Llon'd nefoedd fawr a llon'd y byd

(Part 3)
Hear, my poor soul, thou hast a Father,
  Who is seeing thy weak intent;
And a Brother interceding in heaven
  Before the raising up of thy cry:
Believe that not unconsidered by thy Father
  Is listening to to the shout
      of a worthy request,
If thy mouth were too mute
  To say it in God's presence.

When I am in some secret place,
  Groaning under the cross,
Almost failing to walk many a valley,
  Due to the burden too heavy in my life;
Sometimes there comes to me a thought that
The Son of God is finding me in every cell,
I cannot therefore ever lose heart -
  A better life will dawn.
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~