Clodforwn ein Cynhaliwr fyth
Am ei fendithion helaeth;
Profasom hyd y fynyd hon,
Ei ofal tirion odiaeth.
Bob haf a gauaf, 'r ŷm yn cael
Ei anwyl hael ddaioni;
A cha'dd y flwyddyn frau o'i bron
A'i roddion ei choroni.
Bu llynedd farw lawer un,
A ninau sy'n heneiddio;
Cawn bawb ein harwain cyn b'o hir
Drwy angeu, i dir angho'.
Nis gwyddom beth y sydd o'n blaen,
Pa ddwr, neu dân, neu dristwch;
Ein cysur yw fod Crist o'n rhan,
I'n tywys trwy'r anialwch.
Os arbed y Gwinllanydd hael
Ni, brenau gwael, anfuddiol,
O dygwn 'leni gyflawn lwyth
O beraidd ffrwyth rhagorol.
- - - - -
Clodforwn fyth ein Harglwydd Ion,
Am ei fendithion odiaeth;
Profasom hyd y fynyd hon,
Ei ofal tirion helaeth.
Bob haf a gauaf 'r ŷm yn cael
Ei anwyl hael ddaioni;
A cha'dd o hyd y flwyddyn hon
A'i roddion ei choroni.
Nis gwyddom eto beth a ddaw,
Wrth deithiaw mewn tywyllwch;
Ein cysur yw fod Crist o'n rhan,
I'n tywys trwy'r anialwch.
Bendithia ni, O Dduw, yn awr
A dirfawr nefol lwyddiant;
A phlana ni'n blangion hardd
Ar fyr yng ngardd gogoniant.
Benjamin Francis 1734-99
Tôn [MS 8787]: Winchester New |
Let us praise our Sustainer forever
For his abundant blessings;
We have experienced until this minute,
His extremely tender care.
Every summer and winter, we are getting
His beloved, generous goodness;
And the fragile year got completely
Crowned with his gifts.
Last year many a one died,
And we are getting older;
We will all get led before long
Through death, to the land of oblivion.
We do not know what is before us,
What water, or fire, or sadness;
Our comfort is that Christ is on our side,
Leading us through the desert.
If the generous Vine saves
Us, poor, unprofitable trees,
O let us bear this year a full load
Of sweet fruit exceptional.
- - - - -
Let us praise forever our Lord God,
For his abundant exceptional;
We have experienced until this minute,
His abundantly tender care.
Every summer and winter, we are getting
His beloved, generous goodness;
And this year got completely
Crowned with his gifts.
We do not know yet what is will come,
While travelling in darkness;
Our comfort is that Christ is on our side,
To lead us through the desert.
Bless us, O God, now
With enormous heavenly success;
And plant us as beautiful shoots
Shortly in the garden of glory.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|