Clodforaf Di fy Arglwydd da

(Emyn Hwyrol)
Clodforaf Di, fy Arglwydd da,
  Fy niogel noddfa nerthol;
Am gadw, Iôr, fy einioes frau
  Rhag angau yn ddihangol.

Am ddirfawr drugareddau'r dydd,
  A'th ddoniau beunydd imi,
Offrymaf hwyol aberth pêr
  O glod diderfyn iti.

Gorchymyn i'th angylion, Dad,
  Drwy 'nhwsg fy nghadw heno;
Ar hyd y nos, i'th waelaf lwch
  Dy dirion heddwch dyro.

Ac yn y wlad tu hwnt i'r bedd,
  Boed nefol hedd i'm henaid;
Gad imi yn dragwyddol fyw
  Yng nghwmni'r gwiw ffyddloniaid.

[A phan orffwyswyf yn y bedd,
   Rho nefol hedd i'm henaid;
 Ac atgyfoda 'nghorff i fyw
   Byth gyda'r gwiw ffyddloniaid.]
Benjamin Francis 1734-99

Tonau [MS 8787]:
    Dymuniad (Robert H Williams [Corfanydd] 1805-76)
    Elizabeth (<1875)
    Ely (<1875)
    Richard (Morfydd Llwyn Owen 1891-1918)
    Trallwm (J Ambrose Lloyd 1815-74)

(Evening Hymn)
I will praise Thee, my good Lord,
  My secure, strong refuge;
For keeping, Master, my fragile life
  Safe from death.

For the precious mercies of the day,
  And thy daily gifts to me,
I will offer a sweet evening sacrifice
  Of endless praise to thee.

Order thy angels, Father,
  Through my sleep to keep me tonight;
All through the night, to thy poorest dust
  Grant thy tender peace.

And in the land beyond the grave,
  Let there be heavenly peace to my soul;
Let me eternally live
  In the company of the worthy faithful.

[And when I rest in the grave,
   Give heavenly peace to my soul;
 And resurrect my body to live
   Forever with the worthy faithful.]
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~