Ceir gweled y ddaear ryw dd'wrnod yn hardd

Ceir gweled y ddaear
    ryw dd'wrnod yn hardd,
Rhagora'r anialwch
    ar degwch yr ardd;
  Bydd moliant i'r Arglwydd
      o'r mynydd a'r môr,
  Yn nydd goruchafiaeth
      Breniniaeth ein Iôr!

    Haleluia i'r Iesu
        yw anthem y Nef!
    Cyduno mae'r eglwys
        mewn mawl iddo Ef!
      Teyrnasa, teyrnasa,
          yw'r gydgan o hyd -
      Dyrchafa dyfaner
          dros bobloedd y byd.

Fe gana'r dyffrynoedd
    yn fawr ac yn fan,
Y coedydd a garant -
    a chwyddant y gân;
  Plant bychain folianant -
      cydganant yn Gor,
  Yn nydd goruchafiaeth
      Breniniaeth ein Iôr.
James Spinther James (Spinther) 1837-1914
Côr y Plant 1875

Tôn [11.11.11.11+11.11.11.11]:
    Haleluia i'r Iesu (John Fawcett)

The earth is to be seen
    beautiful some day,
The excellence of the desert
    over the fairness of the garden;
  There will be praise to the Lord
      from the mountain to the sea,
  In the day of the supremacy
      of the Kingdom of our Lord!

    Hallelujah to Jesus
        is the anthem of heaven!
    Joining is the church
        in praise unto Him!
      He shall reign, he shall reign,
          is the chorus always -
      Raise a banner
          over the peoples of the world!

The valleys shall sing
    great and small,
The woods shall sing -
    and swell the song;
  Small children shall praise -
      they shall sing together as a Choir,
  In the day of the supremacy
      of the Kingdom of our Lord.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~