|
(Cenadwri Evan Roberts i Genhadau Môn)
Cofiwch y gwaed a dywalltodd yr Iesu,
Cofiwch waradwydd a
dirymg Ei oes;
Gras a maddeuant
sy'n bythol dyneru
Calon pechadur
yn ymyl y groes.
Cofiwch y gwaed,
O! cofiwch y gwaed,
Dilynwch yr Iesu,
a chofiwch y gwaed.
Cofiwch y gwaed yn ei ddwyfol rinweddau,
Bywyd y nefoedd a
gobaith y byd;
Dringwch y Bryn i gyweiro'r telynnau,
Dal mae y gwaed yn ei rinwedd o hyd.
Cofiwch y gwaed a
foddlonodd gyfiawnder,
Dalodd ofynion y nefoedd yn llawn;
Ingol ddefnyddau o galon mor dyner
Lanwodd ehangder
y nefoedd ag Iawn.
Cofiwch y gwaed sydd yn golchi'r annuwiol,
Ffynnon i buro'r gwahanglwyf a gaed;
Heibio y groes mae y dorf waredigol
Adre'n dychwelyd dan
arwydd y gwaed.
Cofiwch y gwaed, a choeddwch ei hanes,
Cenwch nes clywo y meirw eich llef;
Daliwch i foli, a chanmol yn gynnes,
Anthem y gwaed
ydyw bywyd y nef.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 11.10.11.10 + 9.11] gwelir: Ni gofiwn y gwaed |
(The Message of Even Roberts to the Missioners of Anglesey)
Remember the blood that Jesus poured out,
Remember the mocking and
scorn of his life;
Grace and forgiveness
which are forever making tender
The heart of a sinner
by the side of the cross.
Remember the blood,
O remember the blood!
Follow Jesus,
and remember the blood.
Remember the blood in its divine merits,
The life of heaven and
the hope of the world;
Climb the Hill to tune the harps,
The blood still holds all its merits.
Remember the blood that
satisfied righteousness,
That paid the demands of heaven in full;
Anguished drops from a heart so tender
That flooded the vastness
of heaven with Atonement.
Remember the blood that washes the ungodly,
A well to purify the leper was got;
Beyond the cross is a delivered crowd
Home returning under the
sign of the blood.
Remember the blood, and publish its story,
Sing until the dead hear your cry;
Continue to praise, and extol warmly,
The anthem of the blood
is the life of heaven.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|