Codaf 'nawr fy Ebenezer Fyth yn dyst ar fin y bedd, Gan fynegu dy gyfiawnder, A dy ras, O Frenin hedd! Buost gymhorth beunydd imi Trwy flinderus anial fyd; Do, dylynaist â daioni F'einioes ddiffrwyth i o hyd. Dwg fi'r lan o ddyffryn Baca, I gyffiniau Salem lon; A phan ddringwyf fynydd Pisga, Gad im' farw ger dy fron: Arglwydd Iesu, i'th law rasol Rho'f fy ysbryd llesg yn awr; Dwg fy enaid yn ddiangol Fry i'r maith lawenydd mawr.Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [8787D]: Moriah (Martin Madan 1725-90) |
I raise now my Ebenezer Forever a witness on the grave's edge, Expressing thy righteousness, And thy grace, O King of peace! Thou wast daily a help to me Through a grievous desert world; Yes, thou didst follow with goodness My fruitless lifespan always. Lead me up from the vale of Baca, To the vicinity of cheerful Salem; And when I climb mount Pisgah, Let me die in thy presence: Lord Jesus, into thy gracious hand I put my feeble spirit now; Lead my soul safely Above to the vast, great joy.tr. 2025 Richard B Gillion |
|