Clywsom fod yr Iesu'n

(Neb fel Iesu)
Clywsom fod yr Iesu'n
    caru plant ei oes,
Cymerth yn Ei freichiau
    ar Ei ffordd i'r Groes;
  Deuwn ninau ato,
      ac fe'n derbyn ni,
  Mwynach yw Ei gariad
      wedi Calfari.

Os mai bychain ydym,
    nesaf y'm i'r nef,
Teyrnas i rai bychain
    yw Ei deyrnas Ef;
  Pwyswn ar Ei fynwes
      yn moreuddydd oes,
  Wedi cael Ei fendith,
      hawdd fydd dwyn Ei groes.

Cyn i bechod bywyd
    wywo'n tegwch ni,
Carwn Ef a gollodd
    gynt Ei waed yn lli;
  Bwriwn ein coronau'n
      ieuainc wrth Ei draed,
  Cawn ryw ddydd delynau
      i ganu am Ei waed.
Eliseus Williams (Eifion Wyn) 1867-1926

Tonau [6565D]:
  Clywsom fod yr Iesu (Daniel Protheroe 1866-1934)
Gwefus Bur (John Hughes 1896-1968)

(No-one like Jesus)
We heard that Jesus
    loved the children of his age,
He would take them in his arms
    on his way to the Cross;
  Let us too come to him,
      and he will receive us,
  More tender is his love
      after Calvary.

If we are small,
    nearer we are to heaven,
A kingdom for small ones
    is his kingdom;
  Let us lean on his bosom
      in the morning of our age,
  Having received his blessing,
      easy shall be carrying his cross.

Before the sin of life
    withers our fairness,
Let us love him who shed
    once his blood as a flood;
  Let us cast our crowns
      young at his feet,
  We shall get some day harps
      to sing about his blood.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~