Clodforwn Di O Iesu

(Clodforwn Di, O Dduw.)
Clodforwn Di, O! Iesu,
  Am Ysgol Sul ein glwad -
Yr Ysgol sy'n cyfrannu
  Ei haddysg inni'n rhad.
Mawrygwn lafur helaeth
  Ein tadau erddi hi,
I'w rhoddi'n etifeddiaeth
  Gyfoethog deg i ni.

Yn nyddiau ein plentyndod,
  Cymerodd ni'n ei chôl,
I'n dysgu i'th adnabod
  A cherdded ar dy ôl.
Agorodd ein meddyliau
  I werth dy eiriau pur,
A golud y grasusau
  Tragwyddol, sy'n dy gur.

Mae'n galw heddiw'n ddyfal
  A'r Beibil yn ei llaw;
Paham mae plant ei gofal
  Yn chwennych crwydro draw?
Ti, Iesu, a'n henynno
  I'w chodi i fawrhad;
Na ddoed y dydd pan ballo
  Ei bendith fawr i'n gwlad.
George Rees 1873-1950

Tôn [7676D]: Morning Light (G J Webb 1803-87)

(We Extol Thee, O God.)
We extol thee, O Jesus,
  From the Sunday School of our land -
The school which shares
  Its teaching with us freely.
We magnify the generous labour
  Of our fathers on her behalf,
To give our rich,
  Fair heritage to us.

In the days of our childhood,
  It took us in its bosom,
To teach us to know thee
  And walk after thee.
It opened our thoughts
  To the value of thy pure words,
And the wealth of the eternal
  Graces, that are in thy wounding.

It is calling us today devotedly
  With the Bible in its hand;
Why are the children of its care
  Lusting to wander afar?
Thou, Jesus, dost urge us
  To raise her to greatness;
Let the day never come when its
  Great blessing ceases in our land.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~