Caned nef a daear lawr,
fe gaed ffynnon
I olchi pechaduriaid mawr
yn glaer wynion;
Yn y ffynnon gyda hwy
minnau 'molcha',
Ac mi ganaf fyth tra bwy':
Halelwia!
Dyma'r dŵr a dyma'r gwaed
redodd allan,
Ac o'i ystlys sanctaidd gaed
i olchi'r aflan;
Hon yw'r ffynnon sy'n glanhau
yr aflana';
Yn dragywydd mae'n parhau:
Halelwia!
- - - - -
1,2,(3).
Caned nef a daear lawr,
fe gaed Ffynon
'Olchi pechaduriaid mawr
yn bur wynion;
Af i'r Ffynon gydâ hwy
ac mi 'molcha',
Ac mi ganaf am ei glwy':
Halelwia.
Dyma'r Ffynon sy'n glanhau
'r rhai aflanaf,
Dyma'r Ffynon sy'n iachau'r
clwyfau dyfnaf;
Dyma'r Ffynon loyw lân
olch fel eira;
Byth am deni f'enaid cân
Halelwia.
Dacw'r deg gorchymyn pur -
ar Galfaria,
Dacw'r hwn wnaeth fôr a thir -
yn y ddalfa;
Dacw'r ddeddf yn gofyn iawn -
hyd yr eitha',
Dacw iddi daliad llawn -
Halelwia.
'Olchi :: Golchir ac mi 'molcha' :: ac a 'molcha' Halelwia :: Alelwia loyw lân :: hyfryd lân olch :: ylch am deni :: am dani
- - - - -
Caned nef a daear lawr,
fe gaed ffynon,
I olchi pechaduriaid mawr,
yn glaer wynion;
Yn y ffynon gyda hwy,
minnau ymolchaf;
Ac a ganaf fyth tra bwy':
Haleluiah!
Hedd a chariad ar y groes
darddodd allan;
Iesu, yn nyfnder
angau loes,
'faedddd Satan:
Er ei glwyfo tan ei fron,
ef orchfygodd;
Cenir am y frwydr hon
yn oes oesoedd.
- - - - -
Caned nef a daear lawr,
Fe gaed ffynnon,
I olchi pechaduriaid mawr,
Yn glaer wynion;
Yn y ffynnon gyd a hwy,
minnau ymolcha';
Ac a ganaf fyth tra bwy'
Haleluia!
Dyma'r aberth mae erioed
Son am dano,
Ar y ddaear 'does yn bod
Debyg iddo:
Mae seraphiaid penna'r nen
Yn rhyfeddu,
Gwel'd eu Brenin ar y pren
Yno'n trengu. [WW]
Dowch blant afradlon at eich Tad
Mae i chwi groeso,
A fu mhell o dir eich gwlad,
Yn hir grwydro;
Mae'r llo pasgedig wedi'i ladd,
Ni gawn wledda,
Ac mae'r gweision etto'n gwa'dd,
Haleluia. [GSC]
Nid oes terfyn, fyth i'w gael,
Ar ei gariad,
Mae'i drysorau mawrion hael,
Uwch eu dirnad;
Ynddo'i hunan y mae'n llwyr,
Oll ddymuna',
Fy enaid egwan fore' a hwyr,
Haleluia. [WW]
Edward Parry 1723-76[GSC]: Grawn-Sypiau Canaan 1829 [WW]: William Williams 1717-91
Tonau [7474D]: gwelir: Ar Galfaria un prydnawn Blant afradlon at eich Tad Bugail yw fe roes ei waed Dacw'r deg gorchymyn pur Dyma'r Aberth mae erioed Hedd a chariad ar y groes Mi a gredaf yn fy Nuw Myn'd a wnaf dan godi'm llef Ni chaiff fyth o'i ddefaid rhi Nid oes aberth o unrhyw Teithio'r wyf fynyddau maith |
Let heaven and earth below sing,
there is a well
To wash great sinners
shining white;
In the well they have
I will wash myself too,
And I will sing forever while I live:
Hallelujah!
Behold the water and behold the blood
which ran out,
And from his holy side flowed
to wash the unclean;
This is the well which cleanses
the foulest;
Eternally it endures:
Hallelujah!
- - - - -
Let heaven and earth below sing,
there is a Well
To wash great sinners
pure white;
I shall go to the Well with them
and I shall wash myself,
And I shall sing about his wound:
Hallelujah.
Here is the Well which cleanses
the unclean ones,
Here is the Well which heals the
deepest wounds;
Here is bright clean Well
which washes like snow;
Forever for attracting my soul sing
Hallelujah.
Behold the ten pure commandments -
on Calvary,
Behold him who made sea and land -
in custody,
Behold the law demanding satisfaction -
to the uttermost,
Behold it being paid fully -
Hallelujah!
To wash :: To be washed are :: :: bright clean :: delightfully clean :: for attracting :: about it
- - - - -
Let heaven and earth below sing,
there is a well,
To wash great sinners,
pure white;
In the well with them,
I too shall wash;
And I shall sing forever while I live:
Hallelujah!
Peace and love on the cross
issued out;
Jesus, in the depth of
the throes of death,
beat Satan:
Despite his wounding under his breast,
he overcame;
This battle shall be sung about
forever and ever.
- - - - -
Let heaven and earth below sing
A fount was found,
To wash great sinners
Clearly white;
In the fount with them
I too will wash myself;
And I shall sing while ever I live
Hallelujah!
Here is the sacrifice that ever
Shall be mentioned,
On the earth nothing is
Like unto him:
The chief seraphim of the sky are
Wondering,
Seeing their King on the tree
There expiring.
Come prodigal children to your Father
There is a welcome for you,
Who were far from the land of your country,
Long wandering;
The fatted calf has been killed,
We shall get a feast,
And the servants still are invited,
Hallelujah.
There is no limit ever to be found
To his love,
His great, generous treasures are
Above their discerning;
Within himself he is complete,
All I wish,
My weak soul morning and evening,
Hallelujah.
tr. 2008,21 Richard B Gillion
|
|