Cymer ein calonnau,
O! Waredwr glân;
Llanw ein bywydau
Oll â'th ddwyfol dân;
Gwynned ar ein llwybrau
Dy dyneraf wawl;
Heded o'n geneuau
Dy raslonaf fawl.
Hoffem ninnau ganu
Am dy ras trwy'n hoes,
Hoffem hefyd ddysgu
Cerdded bryn y Groes;
Cadw ni'n dy gwmni,
O! Waredwr byw,
Nes dod i'r goleuni,
Fry i ddinas Duw.
Dysg i ni dy lwybrau,
O! Iachawdwr mwyn,
Carem dreulio'n dyddiau
Yn dy nefol swyn;
Clwysom gan ein tadau
Am dy gariad Di -
Clysom gan ein mamau
Am dy Galfari.
Rees Rees (Teifi) 1870-1948Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930
Tôn [6565D+6565D]: |
Take our hearts,
O holy Deliverer;
Flood all our lives
With thy divine fire;
May thy tenderest radiance
Shine upon our paths;
May thy most gracious praise
Fly from our mouths.
We ourselves would love to sing
About thy grace throughout our life,
We would also love to learn
To walk the hill of the Cross;
Keep us in thy company,
O living Deliverer,
Until we come to the light,
Up in the kingdom of God.
Teach to us thy paths,
O dear Saviour,
We would love to spend our days
In thy heavenly charm;
We heard from our fathers
About thy love -
We head from our mothers
About thy Calvary.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|