Cyflawnder didrai sy'n Iesu o hyd

1,2,(3,4,5,6);  1,3,2.
("Hi a huliodd ei bwrdd.")
Cyflawnder didrai
  sy'n Iesu o hyd,
Er cymaint ein bai
  a'n hangen i gyd;
Trysorau digonol,
  o wirfodd y Tad,
I dlodion ysbrydol,
  yn rhodd ac yn rhad.

Mae galwad yn awr,
  gwahoddiad o hedd,
Ar waelion y llawr, -
  O, deuwch i'r wledd!
Gwledd aberth Calfaria,
  gwledd uchel ei chlod:
Cawn ynddi oludoedd
  tra bydoedd yn bod.

Cawn yma bob nerth,
  cawn yma bob dawn,
Heb arian na gwerth,
  yn rhad ac yn llawn;
Tragywyddol ddarpariaeth
  hen arfaeth y nef,
I'r enaid anghenus,
  wylofus ei lef.

Yn llawen ei blant,
  tra byddant yn bod,
A thafod a thant
  hwy ganant ei glod;
Sef clod i Fab Dafydd
  tragywyddol y gān,
I'r Tad, ac i'r Ysbryd
  o hyd heb wahan.

Gwnaed Duw ganiatau
  i minnau fy mod
Yn nghanol y llu,
  yn clymu'r un clod;
Os gwelir fi'n ddiogel
  o'r rhyfel yn rhydd,
Mi ganaf - mae'n ddyled -
  O deued y dydd!

Mi dynaf o hyd,
  er penyd er poen,
Fy nghysur a'm hedd
  o rinwedd yr Oen;
Ef fyddo dedwyddyd
  fy mywyd i mwy,
Mae trysor diddiwedd
  a gwledd yn ei glwy.
Cawn yma :: Cawn ynddo
cawn yma :: cawn ynddo

J.H.
Llundain, Tachwedd 30. 1840.
Y Trysorfa, Ionawr 1841.

Tonau [10.10.11.11]:
Beethoven (o Ludwig van Beethoven 1770-1827)
Hanover (William Croft 1678-1727)

("She has spread her table.")
Unebbing fullness
  is in Jesus always,
Despite the extent of our fault
  and all our need;
Sufficient treasures,
  from the free will of the Father,
To the spiritually poor,
  as a gift and free.

There is a call now,
  an invitation from peace,
To the base ones of the earth below, -
  O, come to the feast!
The feast of the sacrifice of Calvary,
  a feast of high praise:
In it we get riches
  while ever the worlds exist.

Here we may get every strength,
  here we may get every gift,
Without money or price,
  freely and in full;
The eternal provision
  of the ancient purpose of heaven,
For the needy soul,
  with its lamenting cry.

Joyfully his children,
  while ever they be,
With tongue and string
  they sing his praise;
That is the praise of the Son of David
  eternal the song,
To the Father and to the Spirit
  always without division.

God gave permission
  for me also to be
In the middle of the host,
  joining the same praise;
If I am seen saved
  from the battle free,
I shall sing - it is a duty -
  O may the day come!

I shall draw always,
  despite punishment, despite pain,
My comfort and my peace
  from the merit of the Lamb;
'Tis he shall be the happiness
  of my life evermore,
There is unending treasure
  and a feast in his wound.
Here we may get :: In him we may get
here we may get :: in him we may get

tr. 2023 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~