Cyd ganwn yn llafar
o'r ddaear i Dduw,
Mae'n Prynwr anfeidrol,
rhyfeddol yn fyw;
Angylion, a dynion sy'n
dystion o'i du,
Nad yw ef yn gorwedd mewn
bedd fel y bu.
Er myned i orwedd
i geufedd yn gaeth,
O'i fedd yn wirfoddol
fuddugol fe ddaeth;
A'i Dad gwedi danfon
cenhadon mewn hedd,
O'r nef i groesawu
i fynu o'i fedd.
Edward Jones 1761-1836Cofiant Edward Jones 1839 [Mesur: 11.11.11.11] |
Let us sing together
from the earth to God,
Our immortal Redeemer,
wonderfully is alive;
Angels, and men who are
witnesses from his side,
He is not lying in
a grave as he was.
Although going to lie
captive in a tomb,
From his grave voluntarily
victorious he came;
With his Father having sent
emissaries in peace,
From heaven to welcome him
up from his grave.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|