Clodforwn di O Arglwydd da

(Duw yn ddigyffelyb)
Clodforwn di, O Arglwydd da,
  Yn mhob cyn'lleidfa santaidd;
A'th enw ogoneddus cu,
  A fawl y llu nefolaidd.

Tydi wyt byth heb
    ddechreu bod,
  Na diwedd hanfod iti;
Yr un er doe,
    cyn gwneuthur dyn,
  A 'fory yr un a ffyddi.

Dy fawredd di mor hynod yw,
  O Arglwydd Dduw y lluoedd!
A metha'r seraph mwya' sy',
  Amgyffred dy weithredoedd.

Rhoed nef a daear
    byth i'n Duw,
  Anrhydedd gwiw parodol;
Addoliad dwys, gwasanaeth da,
  Ac ufydd fawl trag'wyddol.
Benjamin Price (Cymro Bach) 1792-1854

[Mesur: MS 8787]

gwelir:
  Dy fawredd di mor hynod yw
  Dy orsedd oedd erioed Dduw Ner

(God as incomparable)
We extol thee, O good Lord,
  In every sacred congregation;
And thy dear glorious name,
  The heavenly host doth praise.

Thou art forever without
    beginning of being,
  Or end of essence to thee;
The same since yesterday,
    before the creating of man,
  And tomorrow the same shalt thou be.

Thy majesty how notable it is,
  O Lord God of the hosts!
And the greatest seraph there is, fails
  To grasp thy works.

Let heaven and earth forever
    give to our God,
  Worthy, ready honour;
Intense worship, good service,
  And obedient, eternal praise.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~