Clod i Dduw am ei ysgrythyr

(Yr Ysgrythyr Lân)
Clod i Dduw am ei ysgrythyr,
  Addysg gywir geir yn hon;
Nawdd i'r euog,
    gras i'r aflan,
  I'r annyddan heddwch llon;
Rhyddid llawn i'r caeth
    a'r llwythog,
  I'r blinderog esmwythâd,
Ac i holl alarwyr Seion
  Y cysuron pura'n rhâd.

Buddiol yw i athrawiaethu,
  I geryddu anwar rai:
Mewn cyfíawnder i hyfforddi,
  Ac i ddangos ini'n bai:
Nodir ynddi ffbrdd y bywyd,
  I ochelyd uffern ddu;
Ffordd i'n dwyn trwy afon angeu
  I drìgfanau'r gwynfyd fry.

Gras i'w darllain, dyro, Iesu,
  Ac i'w dysgu heb lesgâu;
Gras i'w chwilio, gras i'w gwrando,
  Ac i'm mewn ei gwir fwynhau:
Pel y meddwyf hir amynedd,
  A diddanwch dan y groes;
Ac am fywyd sy'n anfarwol,
  Gobaith bywiol trwy fy oes.
Iesu :: Arglwydd

Cas. Daniel Rees 1831

[Mesur: 8787D]

(The Holy Scripture)
Praise to God for his scripture,
  True teaching is found in this;
Refuge for the guilty,
    grace for the unclean,
  For the comfortless, cheerful peace;
Full freedom for the captive
    and the burdened,
  To the wearied, relief,
And to all the mourners of Zion
  The purest comforts freely.

Beneficial is its teaching,
  To rebuke the unruly:
In righteousness to train,
  And to show to us our fault:
Stated in it is the way of life,
  To avoid black hell;
A way to bear us through death's river
  To the dwellings of blessedness above.

Grace to read, grant, O Jesus,
  And to learn without growing weary;
Grace to search it, grace to listen to it,
  And within me truly to enjoy it:
That I may possess long-suffering,
  And comfort under the cross;
And for life that is immortal,
  A lively hope throughout my lifespan.
Jesus :: Lord

tr. 2023 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~