Chwi rhai gwan sy' tan alaru

(Dewch, gwelwch y fan, lle
gorweddodd yr Arglwydd. Math. xxvii. 6.)
Chwi rhai gwan sy' tan alaru,
  Yn ofidus dreulio'ch oes,
Nac ofnwch chwi sy'n ceisio'r Iesu
  'R hwn fu farw ar y groes:
    Weiniaid de'wch, Ymgryfhewch,
    Gwledda ar ei gariad cewch.

De'wch a gwelwch lle gorweddodd
  Crist yr Arglwydd Brenhin hedd;
Talodd ef yn llwyr eich dyled
  Cyn ei roi mewn newydd fedd;
    Israel Duw, mae e'n fyw,
    'Mhlith y meirw, mwy nid yw.

'Does ond llieniau yn y beddrodd,
  Napcyn fu oddeutu'i ben;
Y mae'n Harglwydd wedi gorfod,
  'R hwn 'fu was sy 'nawr yn ben;
    Mae'n ddifraw, gwelwch draw,
    Bob awdurdod yn ei law.

De'wch ddisgyblion llesg ac ofnus,
  De'wch ymlaen yn ddi-naccâd;
"Gwelwch," medd yr Oen cariadus,
  "Gwelwch fy nwylaw am traed:
    De'wch yn hy, teimlwch fi,
    'R hwn fu farw ar Galfari."

"Tyred Tomas anghrediniol
  Rho'th law yn ôl y wayw-ffon;
Dy fysedd dôd yn ôl yr hoelion,
  Gwel yr archoll dan fy mron:
    Nac ammeu'n hwy, gwel fy nghlwy
    Na fyd anghredadwy mwy."

Ffryndiau'r Iesu, beth yw'r ofnau
  Cyfarfod 'nawr a'r angau glâs;
Mae ei golyn wedi' dynnu,
  A'i wenwyn wedi' sugno ma's:
    T'wysog hedd, yr un wedd
    A sancteiddiodd i ni'r bedd.

Dilyn 'rych yr Oen cariadus
  Ei ganlyn cewch trwy
        angau a'r bedd;
Yna cewch drag'wyddol orphwys,
  Gyd ag ef mewn newydd wedd:
    Trigfannau sy', yn barod fry'
    Ar fyrder i'ch croesawu chwi.
John Thomas 1730-1803/4
Diferion y Cyssegr 1802

[Mesur: 8787337]

(Come ye, see the place, where
the Lord lay. Matt. 27:6.)
Ye weak ones who are under mourning,
  Grieving spending your life,
Fear not, ye who are seeking Jesus,
  Him who died on the cross:
    Ye weak ones come, be strengthened,
    To feast on his love ye shall get.

Come and see where lay
  Christ the Lord and King of peace;
He paid in full your debt
  Before being put in a new grave;
    Israel of God, he is alive,
    Amongst the dead he is no more.

There are only sheets in the tomb,
  A napkin that was around his head;
The Lord has overcome,
  He who was a servant is now Head
    He is fearless, see yonder,
    All authority is in his hand.

Come ye disciples feeble and fearful,
  Come along without refusing;
"See ye," says the loving Lamb,
  "See my hands nad my feet:
    Come boldly, feel me,
    Him who died on Calvary."

"Come thou, unbelieving Thomas,
  Put thy hand in the mark of the spear;
Thy fingers put in the mark of the nails,
  See the wound under my breast:
    Doubt no longer, see my wound
    Do not be unbelieving any more."

Friends of Jesus, what are the fears
  Of meeting now with utter death;
Its sting has been taken away,
  And its poison sucked out:
    The Prince of peace, in the same way
    Has sanctified for us the grave.

Ye follow the loving Lamb
  Ye make follow him through
        death and the grave;
Then ye shall have eternal rest,
  Together with him in a new image:
    There are dwellings, ready above
    Quickly to welcome you.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~