Chwi bererin Canaan wlad

(Tragwyddol Hedd)
Chwi bererin Canaan wlad,
Sydd ar eich taith tua thŷ eich Tad
  O! cenwch glod i'ch Prynwr glān,
  Ar hyd y ffordd wrth fynd yn mlaen.

Ni awn ar fyr at Grist, ein Pen!
Cawn orffwys ar Ei orsedd wen
  'Does yma ddim
      gorffwysfa i'r byw,
  Mae eto'n ol
      i bobl Dduw.

Ni ddaw o fewn y sanctaidd fro
Un poen na thristwch byth, na thro;
  Ond cyd-fwynheir tragwyddol hedd
  Heb angau'n bod,
      nac ofn y bedd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu 1766-1850

Tonau [MH 8888]:
Holly (George Hews 1806-73)
Lledrod (alaw Gymreig)
Whitburn (Henry Baker 1835-1910)

gwelir:
  Ni ddaw o fewn y sanctaidd fro
  Tyr'd esgyn gad fyfyrdawd gu

(Eternal Peace)
Ye pilgrims of Canaan land,
On your journey towards your Father's house
  O sing ye praise to your holy Redeemer,
  All along the road while going onwards.

We shall shortly go to Christ, our Head!
We shall get to rest on His white throne
  There is no resting-place
      here for the living,
  It is still remaining
      for the people of God.

Within the sacred region shall come
No pain or sadness ever, nor turning;
  But enjoying together eternal peace
  Without there being death,
      nor fear of the grave.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~