Cenwch emyn bach i mi,
Un â'i lond o gariad cu,
Am y Gŵr fu ar y pren
Drosof fi yn gwyro'i ben.
Cenwch emyn bach i mi,
Cenwch emyn bach i mi,
Emyn bach, emyn bach,
Cenwch emyn bach i mi.
Cenwch emyn bach i mi
Un yn sôn am Galfari,
Am y gwaed ac am yr Iawn
Roddwyd drosom un prynhawn.
Cenwch emyn bach i mi
Am y Graig sydd uwch y lli,
Craig a roed i blant y llawr,
Heria storm yr olaf awr.
Cenwch emyn bach i mi
Gyda'r hen emynau lu
Wnaeth i dyrfa lawer awr
Deimlo'r nefoedd ar y llawr.
Cenwch emyn - cenwch un
Cyn fy mynd i'm holaf hun;
Cenwch un i leddfu su
Murmur dwfn y dyffryn du.
Cenwch emyn uwch fy medd,
Hyfryd felys emyn hedd;
Llonnaf dant y ddwydd lu,
Ddysgwyd ar ein daear ni.
T Twynog Jeffreys (Tawenog) 1844-1911
Tôn [7777+7747]: Emyn Bach (T Coleshill Jones) |
Sing a little hymn to me,
One that is full of dear love,
About the Man who was on the tree
For me bowing his head.
Sing a little hymn to me,
Sing a little hymn to me,
A little hymn, a little hymn,
Sing a little hymn to me.
Sing a little hymn to me
One mentioning Calvary,
About the blood and about the Ransom
Given for us one afternoon.
Sing a little hymn to me
About the Rock that is above the flood,
A Rock given to the children of earth,
To challenge the storm of the last hour.
Sing a little hymn to me
With the host of old hymns
That the throng did many an hour
Feel heaven on the earth.
Sing a hymn - sing ye one
Before I go to my last sleep;
Sing one to ease the hum
The deep murmur of the black vale.
Sing a hymn above my grave,
A delightful sweet hymn of peace;
The happy host's most cheerful string,
Learned on our earth.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|