Calfaria Fryn mi welaf ddôr

Calfaria Fryn, mi welaf ddôr
  Dihangfa'n agor yno;
Anwylaf Fryn fy enaid yw,
  Clodforaf Dduw am dano.

Y Bryn lle bu Etifedd Nef
  Heb gartref en Ei adfyd;
Na lle i roi Ei ben i lawr
  Ar dduaf awr Ei fywyd.

Anturiodd dros fy enaid tlawd,
  I ganol gwawd a th'w'llwch;
Caf innau mwy Ei sirol wên
  Yn heulwen mewn anialwch.

Trugaredd a gwirionedd sydd
  Yn dedwydd ymgusanu,
Am fod y Nefoedd heddyw'n llawn
  O ddwyfol Iawn yr Iesu.

Wynebu oriau'r hwyr a wnaf
  Heb ofni'r duaf elyn;
Mae niwl y bedd yn ysgafnhau
  Ac angau heb ei golyn.

Gad imi esgyn drwy fy oes,
  A chario'r groes, fy Iesu;
Ac wedi croesi Calfari,
  Caf gyda Thi deyrnasu.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923

[Mesur: MS 8787]

Calvary Hill, I see a door
  Of escape open there;
The dearest Hill of my soul it is,
  I will extol God for it.

The Hill where the Heir of Heaven was
  Without home in His affliction;
Nor anywhere to lay down His head
  At the blackest hour of His life.

He ventured for my poor soul,
  To the centre of scorn and darkness;
Evermore I may get His cheerful smile
  As sunshine in a desert.

Mercy and truth are
  Happily kissing each other,
Since Heaven today is full
  Of the divine Atonement of Jesus.

Face the hours of night I shall
  Without fearing the blackest enemy;
The fog of the grave is growing lighter
  And death is without its sting.

Let me ascend throughout my lifetime,
  And carry the cross, my Jesus;
And after crossing Calvary,
  Get with Thee to reign.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~