|
a Gwaredigaethau o Glefydon, &c.)
Bum mewn llawer o flinderau
Yn llwyr gredu
na ddoi'r dydd,
Byth y cawn o'm cyfyngderau,
A'm caethiwed dd'od yn rhydd:
O helbulon uwch rhifedi,
E'm gwaredodd llaw fy Nuw;
Iddo'n llon, a gofiais roddi
Cynnar fawl, yn daliad gwiw?
Lawer gwaith ar wely galar,
Pan mewn arswyd brenin braw,
Bum am bechod yn edifar,
Ac yn wylo'n drist heb daw, -
I fy Nuw yn addunedu,
Os cawn eilwaith fwyn wellhad,
Cai fy nghamrau ddidwyll harddu
Beunydd ei Efengyl fâd.
Wedi cael ymwared tirion,
Trwy drugaredd hael fy Nuw;
A gyflewnais f'addewidion,
Wrth ei fodd trwy ddoethgar fyw?
Erchyll lwybrau plant drygioni,
Sydd yn ffiaidd iawn eu llef,
A adewais, i gael rhoddi
Gwir ogoniant iddo Ef?
Llawer deg sy'n cael diangfa,
O drwm glefyd
blin ei loes, -
Prin o ddeg
mae un yn coffa
Am y llaw yn rhydd a'i rhoes:
Wedi unwaith ail gyrhaeddyd
Hen arferol ffyrdd y byw,
Bach y nifer sy'n dychwelyd
Yn eu hol i foli Duw.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
[Mesur: 8787D] |
and Deliverance from Diseases, &c.)
I was in many afflictions
Completely believing
the day would not come,
Ever that I would get from my straits,
And my captivity to come free:
From troubles above numbering,
The hand of my God delivered me;
To him cheerfully, did I remember to give
Early praise, as a worthy payment?
Many a time on a bed of lamentation,
When in horror of the king of terror,
I was for my sin repenting,
And weeping sadly without coming, -
To my God promising,
If I get again dear health,
My steps would get sincerely to beautify
Daily his esteemed Gospel.
Having got tender deliverance,
Through the generous mercy of my God;
Did I fulfil my promises,
To his satisfaction through wise living?
The horrible paths of the children of evil,
Which have a very detestable cry,
Did I leave, to get to walk
True glory unto Him?
Many a ten are getting an escape,
From a heavy disease
with wearying anguish, -
Scarcely from ten is there
one who remembers
About the hand giving what it gave:
After once a second time reaching
The old usual ways of living,
Small the number who are returning
Back to praise God.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|