Beth a dalaf am dy helaeth
Drugareddau, O fy Nuw!
Cym'raf phiol iachawdwriaeth,
A chlodforaf d'enw gwiw:
Gyda golud, dyro galon
I ddefnyddio pob rhyw rodd,
Fel gor'chwyliwr hael a ffyddlon,
Trwy fy mywyd, wrth dy fodd.
Nid yw'r cyfoeth, nid yw'r cyfan
A feddiennir yn y byd,
Ddim i'w cyfri'n
addas gyfran, -
Gwynt a gwagedd ŷnt i gyd:
Gad im' feddu gwir santeiddrwydd,
Llanwa f'enaid â dy hedd;
Dwg fi'n llon i'r etifeddiaeth
Ddidranc, bur, tu draw i'r bedd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850Diferion y Cyssegr 1809 Tôn [8787D]: Cassel (Johann Thommen 1711-83) gwelir: Beth dâl cyfoeth nac anrhydedd |
What shall I pay for thy generous
Mercies, O my God?
I shall take the chalice of salvation,
And I shall extol thy worthy name:
With riches, grant a heart
To use every kind of gift,
Like a generous and faithful overseer,
Throughout my life, to please thee.
Neither wealth nor the whole
That is possessed in the world,
Is anything to be counted as
a suitable portion, -
Wind and vanity are they all:
Let me possess true sanctification,
Flood my soul with thy peace;
Lead me cheerfully to the inheritance
Undying, pure, beyond the grave.
tr. 2024 Richard B Gillion
|
|