Bechaduriaid! eto cofiwch,
Cyn ei myned yn rhy hwyr;
Duw sy'n galw, 'nawr, dychwelwch,
Onid ê daw dial llwyr:
Yn nydd gras, cyn awr marwolaeth,
Y mae caffael gras a hedd;
Ni bydd cynnyg iachawdwriaeth,
Na maddeuant yn y bedd.
Mae y ffynnon yn agored,
Gras y nefoedd
heb brinhau;
Mae yn derbyn pechaduriaid,
I'w heddychu a'u glanhau;
Mae llawenydd yn y nefoedd,
Pan fo un pechadur trist,
Yn y dirgel, ac ar gyhoedd,
Yn nesau at Iesu Grist.
Cas. o Salmau a Hymnau (Morris Davies) 1835
[Mesur: 8787D] gwelir: Rhan I - Clyw bechadur saf yn fuan |
Sinners, again remember,
Before it gets too late!
God is calling, now, return ye,
Otherwise complete vengeance shall come:
In the day of grace, before death's hour,
There is acquisition of grace and peace;
There shall be no offer of salvation,
Or forgiveness in the grave.
The fount is open,
The grace of heaven is
not becoming scarce;
It is accepting sinners,
To pacify them and to cleanse them;
There is rejoicing in heaven,
Whenever one sad sinner be,
In secret, or publicly,
Drawing near to Jesus Christ.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|