Bechadur edrych [ar/gwel] Oen Duw

(Oen Duw)
Bechadur, edrych, gwel Oen Duw,
Mor addfwyn ac mor llariaidd yw!
  Ei waed sy'n golchi'r duaf rai,
  Ac yn dileu'r ffieiddiaf fai.

O gwel o'i fron ar Galfari,
Ei werthfawr waed yn ffrydio'n lli';
  O edrych arno ar y groes,
  O'i fodd yn marw dan ei loes.

Gwel hoelion llymion drwy ei draed,
A'i ddwylaw pur yn goch o waed!
  Clyw ef yn gwaeddi, Geidwad cun,
  Gorphenwyd prynedigaeth dyn!

A gwel ef fry o flaen y Tad
Yn dadlu gwerth ei aberth rhad;
  Fe wnaeth yr oll o'i gariad cu,
  Bechadur, er dy achub di.
edrych, gwel :: edrych ar
Ei waed sy'n :: Mae'i waed yn
O'i fodd yn marw :: A gwel E'n marw

1,2,4:Casgliad Samuel Roberts 1841
  3   : Llawlyfr Moliant 1880

Tôn [MH 8888]: Menai (Salmydd Playford 1671)

(The Lamb of God)
Sinner, look, see the Lamb of God,
So tender and so gentle he is!
  His blood is washing the blackest ones,
  And deleting the most detestable fault.

Oh, see from his breast on Calvary,
His precious blood flowing as a flood;
  Oh, look upon him on the cross,
  Willingly dying under his anguish.

See sharp nails through his feet,
And his pure hands red with blood!
  Hear him shouting, a dear Saviour,
  The redemption of man was finished!

And see him above before the Father
Arguing the worth of his free sacrifice;
  He did the whole from his dear love,
  Sinner, in order to save thee.
look, see :: look upon
::
Willingly dying :: And see him dying

tr. 2015,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau> ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~