Arglwydd, yn dy nerth a'th rin, Mae'r brenin mewn llawenydd; Ac yn dy iechyd, yr un wedd, Mae ei orfoledd beunydd. Can's da'r achubaist ei flaen ef A doniau'r nef yn gyntaf; Ac ar ei ben, ddaionus Ion, Rhoist goron o'r aur puraf. I'th iachawdwriaeth mae yn byw, A mawr yw ei ogoniant; Gosodaist arno barch a nerth, A phrydferth yw ei lwyddiant. Gwneist E'n fendithion er dy fawl, Trwy rodd dragwyddawl iddo: Llewyrch dy wyneb byth a fydd Yn fawr lawenydd arno. Tôn [MC 8787]: Aber |
Lord, in thy strength and thy merit, The king is in joy; And in thy salvation, the same condition, His jubilation is daily. For well thou hast preceded him With heaven's gifts first; And on his head, good Lord, Thou hast put a crown of purest gold. To thy salvation he lives, And great is his glory; Thou didst put on him honour and strength, And beautiful is his success. Thou madest Him blessings for thy praise, Through an eternal gift to him: The radiance of thy face forever will be A great joy to him. tr. 2009 Richard B Gillion |
|