Arglwydd tyred â'r newyddion

1,(2),3;  1,2,4.
(Hiraeth am ben y daith)
Arglwydd, tyred â'r newyddion
  Sydd yn gweithio llawenhau,
Ac aed heibio'r noswaith dywyll
  O och'neidio a thristau,
    I mi'n glir wel'd y tir
  Brynwyd trwy ddioddefaint gwir.

Gâd i'm henaid lanio yno,
  Y mae'r tonnau'n fawr eu grym, 
Ac ni all fy enaid ofnus
  Ddal eu pwysau anferth ddim:
    D'angeu drud, tra'n y byd,
  Fydd fy nghysur oll i gyd.

O! na welwn gopa'r bryniau,
  Mae f'Anwylyd yno'n byw;
'Rwyf yn caru'r gwynt sy'n hedeg
  Dros fy Nghanaan hyfryd wiw:
    Fedd y llawr ddim yn awr
  Leinw le fy Arglwydd mawr.

Dacw gariad fel yr afon,
  Dacw heddwch fel y llif,
Wedi'u meddu gan fy mrodyr,
  Brodyr anwyl fwy na rhif;
    Gyda hwy, caiff fod mwy,
  F'enaid heb na briw na chlwy'.
Sydd yn gweithio :: Sydd yn peri
oll i gyd :: oll yn nghyd

William Williams 1717-91

Tonau [8787337]:
Coburg (Coral Ellmynig / C Roberts)
Dolfor (alaw Gymreig)
Gwahoddiad/Penllyn (alaw Gymreig)
GweddiWladgarol (Caradog Roberts 1878-1935)
Pricilla (D J James 1743-1831)
St Elizabeth (T Maldwyn Price 1861-1933)

gwelir:
  Arglwydd anfon dy leferydd
  Arglwydd edrych ar bererin
  Dacw gariad fel yr afon
  'Rwyf fi heddyw'n teimlo undeb

(Longing for the journey's end)
Lord, bring the news
  Which causes rejoicing,
And may the dark evening of
  Groaning and sadness pass,
    For me clearly to see the land
  Bought through true suffering.

Let my soul land there,
  The waves are of great force,
And my fearful soul cannot
  Bear their enormous pressure at all:
    Thy costly death, while in the world,
  Shall be all my comfort altogether.

O that I might see the tops of the hills,
  There my Beloved is living;
I love the wind that is flying
  Over my delightful, worthy Canaan:
    Earth below possesses nothing now
  That fills the place of my great Lord.

Yonder is love like the river,
  Yonder is peace like the flood,
Having been possessed by my brothers,
  Beloved brothers greater than number;
    With them, my soul evermore,
  Shall get to be without bruise or wound.
::
::

tr. 2018,25 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~