Arglwydd, Ti wyt darian imi,
A dyrchafydd mawr fy mhen;
Ti yw'm hymffrost a'm gogoniant
Ar y ddaear, yn y nen;
Dan dy aden, gwnaf fy nyth,
A diogel fyddaf byth.
Gelwais arnat Arglwydd; Tithau
A wrandewaist ar Dy was,
Ac o fynydd Dy sancteiddrwydd
Rhoddaist i mi help Dy ras;
Minnau bellach, O fy Nuw,
A'th foliannaf tra fwyf byw.
Mi orweddais dan dy aden,
Ac a hunais yn dy hedd,
A deffroais wedi hyny,
Yn y bore'n llon fy ngwedd;
Llechaf dan dy gysgod Di,
Yno mae fy ngobaith i.
Iachawdwriaeth sydd yn eiddot
Ti yn unig, Arglwydd mawr,
Fel y gwlith disgyna'th fendith
Ar Ddy bobl o'r nef i lawr;
Cenir iti fawl di-lyth
Ar delynau Sïon byth.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [87.87.77]: gwelir: Arglwydd aml yw'm trallodwyr |
Lord, Thou art a shield to me,
And the great lifter of my head;
Thou art my boast and my glory
On the earth, in heaven;
Under thy wing, I make my nest,
And safe I shall be forever.
I called upon thee Lord; 'twas Thou
Who listened to Thy servant,
And from the mountain of Thy holiness
Thou didst give me the help of thy grace;
I, then henceforth, O my God,
Shall praise thee while ever I live.
I lay under thy wing,
And slept in thy peace
I awoke after this,
In the cheerful morn of my condition;
I shall shelter under Thy shadow,
There is my hope.
Salvation there is with thee
Thee alone, great Lord,
Like the dew descends thy blessing
Upon Thy people from heaven down;
Unfailing praise shall be sung to Thee
Upon the harps of Zion forever.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|