Arglwydd, melys ydyw cerdded
I gyfeiriad Seion fryn,
Lle y gwelwyd ein cyndadau
Yn finteioedd heirdd cyn hyn
Hapus ydym
I gael rhodio'n ol eu traed.
Fel yr oedynt hwy, 'rym ninnau,
Rhai yn ieuainc, rhai yn hên;
Rhai yn wylaid yn y cysgod,
Rhai yn moli dan dy wên.
Rhai'n gweddio
Rhai yn canu ar y daith.
'Rym, ein Dduw, yn ofni weithiau
Mai rhy rwydd yw'n llwybyr ni;
Ac y dichon i ni golli
Awydd am dy gwmni di.
Gwna ni'n debyg
I'r ffyddloniaid dewrion gynt.
David Davies 1849-1926Llawlyfr Moliant 1930
Arglwydd, melys ydyw cerdded
Ar y ffordd tua Seion fryn,
Teithio hon y bu ein tadau
Yn finteioedd heirdd cyn hyn:
Hapus ydym
O gael rhodio yn ôl eu traed.
Tebyg iddynt ydym ninnau -
Hen ac ieuainc o un fryd:
Rhai yn ochain dan eu beichiau,
Rhai yn canu'n wyn eu byd,
Cyd-ymbiliwn
Am dy nawdd ar hyd y daith.
Ofni'r ydym, Dduw ein tadau,
Mai rhy rwydd yw'n llwybyr ni;
Ac y dichon inni golli
Awydd am dy gwmni Di;
Gwna ni'n debyg
I'r ffyddloniaid dewrion gynt.
arallwyd | alteredLlawlyfr Moliant Newydd 1956 Tôn [878747]: Islwyn (David Lewis 1828-1908) |
Lord, sweet it is to walk
In the direction of Zion hill,
Where our forefathers were seen
As noble droves before this
Happy are we
To get to walk in their footprints.
As were they, so are we,
Some young, some old;
Some weeping in the shadow,
Some praising under thy smile.
Some praying
Some singing on the journey.
We are, our God, fearing sometimes
That too free be our path;
And that it is possible for us to lose
Eagerness for thy company.
Make us like
The faithful brave ones of old.
Lord, sweet it is to walk
On the road towards Zion hill,
Travelling this were our fathers
As noble droves before this:
Happy are we
From getting to walk in their footprints.
Similar to them are we also -
Old and young of one intent:
Some groaning under their burdens,
Some blessedly singing,
Together we plead
For thy protection along the journey.
Fearing are we, God of our fathers,
That too free is our path;
And that it is possible for us to lose
Eagerness for Thy company;
Make us like
The faithful brave ones of old.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|