Arglwydd edrych ar bererin

(Hiraeth am ben y daith)
Arglwydd, edrych ar bererin
  Ar ei daith i'r Ganaan well,
Sydd yn ofni sŵn llifogydd,
  Wrth eu clywed draw o bell;
    Dal fi i'r lan, er yn wan
  Mi ddof adref yn y man.

Pell wyf yma oddi cartref,
  Pell yn byw o dŷ fy Nhad,
Heb nesâu, 'rwy'n ofni, nemawr
  I gyffiniau'r nefol wlad;
    F'enaid ddaw yn dy law
  I'r ardaloedd hyfryd draw.

O na welwn gopa'r bryniau
  Lle mae Mhriod hoff yn byw;
'R wyf yn caru'r gwynt sy'n hedeg
  Dros y Ganaan hyfryd wiw:
    Fedd y llawr ddim yn awr,
  Leinw le fy Arglwydd mawr.

            - - - - -
          1,2,3;  1,3,2.

Arglwydd, edrych ar bererin
  Sy'n myn'd tua'r wlad sydd well,
Ac yn ofni swn llifogydd
  Wrth eu clywed draw o bell;
    'Dwyf ond gwàn, dàl fi i'r làn,
  Mi orchfygaf yn y màn.

Ti gai'r enw, a'r anrhydedd,
  A'r gogoniant, yn y man.
Am, o ddyfnder maith trueni,
  I ti wared f'enaid gwan:
    Nid oedd un ond dy hun
  All'sai wared aflan ddyn.

Mi âf trwy fyddinoedd cryfau,
  Yr estroniaid gwaetha'u rhyw,
Ond cael gweled fod o'm hochr
  Addewidion gwir fy Nuw:
    Congcro wnair, ar ei air,
  Y gelynion gwaethaf gair.

            - - - - -
      1,2,3,4,5;  1,2,3a+4b.

Arglwydd, edrych ar bererin
  Sy'n myn'd tua'r wlad sydd well,
Ac yn ofni sŵn llifogydd
  Wrth eu clywed draw o bell;
    'Dwyf ond gwan, dal fi i'r lan,
  Mi orchfygaf yn y man.

Ar y tyle serth llithredig,
  Dal fi'n gadarn â dy law;
N'ad fi fymryn golli ngolwg
  Ar y bryniau hyfryd draw;
    Sanctaidd wlad, tŷ fy Nhad,
  Pwrcas perffaith dwyfol wa'd.

Rho i mi drachtio'r dyfroedd bywiol,
  Sydd yn atal llwfwrhau,
Ac yn creu ysbryddoedd cedyrn,
  Hyd y diwedd o barhau;
[    Glowy nant, ylch i bant
  Eogrwydd, ac a ladd y chwant.

Dw'r a dorrodd tan y trothwy,
  Wna i mi gerdded yn y bla'n;
A gwrth'nebu'r cenllysg mwyaf,
  Maeddu'r tonnau, maeddu'r tân; ]
    Nid oes dim o'r fath rym
  Ag yw d'Ysbryd Sanctaidd im'.

Ac os rhoi i mi'r dwfr bywiol,
  Hwnnw dardd ohonw'i ma's,
Megis afon faith nofiadwy,
  Pur effeithiau'r dwyfol ras;
    Cysur gwir, heddwch pur,
  Rhan o wleddoedd Canaan dir.
William Williams 1717-91

Tonau [78767]:
Coblentz/Neander (Joachim Neander 1650-80)
Devetia (D Emlyn Evans 1843-1913)
Dolfor (alaw Gymreig)
Gwahoddiad/Penllyn (alaw Gymreig)
Priscilla (D J James) 1743-1831)
Rheidol (Ieuan Gwyllt 1822-77)

gwelir:
  Arglwydd tyred â'r newyddion
  Dal fi'n gadarn hyd pan ddelo
  Mi debygwn gwelai'r bore

(Longing for the journey's end)
Lord, look upon a pilgrim
  On his journey to the better Canaan,
Who is fearing the sound of floods,
  On hearing them yonder from afar;
    Hold me up, although weak
  I shall come home soon.

I am here far away from home,
  Living far from  my Father's house,
Hardly drawing nearer, I fear, at all
  To the borders of the heavenly land;
    My soul shall come by thy hand
  To the delightful regions yonder.

O that I could see the tops of the hills
  Where my Spouse there lives;
I am loving the wind that is running
  Over th lovely, worthy Canaan:
    Possessing the earth shall not now,
  Fill the place of my great Lord.

                - - - - -
 

Lord, look upon a pilgrm
  Who is going towards the better land,
And fering the sound of floods
  On hearing them yonder from afar;
    I am only weak, hold me up,
  I shall overcome soon.

Thou shalt get the name, and the honour,
  And the glory, in a while.
I want, from the vast depth of misery,
  Thee to deliver my weak soul:
    There is none but thyself
  Could deliver an unclean man.

I shall go through the strong armies
  Of the strangers of the worst kind,
If only I get to see that on my side are
  The true promises of my God:
    A conqueror to be made, upon his word,
  Of the worst enemies there are.

                - - - - -
 

Lord, look upon a pilgrim
  Who is going towards a better land,
And fearing the sound of floods
  On hearing them far away yonder;
    I am but weak, hold me up,
  I shall overcome soon.

On the steep, slippery slope,
  Hold me firmly with thy hand;
Do not let me lose for a moment a view
  Over yonder delightful hills;
    A sacred country, my Father's house,
  The purchase of perfect, divine blood.

Grant me to draw from the lively waters,
  Which are preventing losing heart,
And creating firm spirits,
  As far as the end enduring;
[   A shining stream, washing away
  Guilt, and which shall kill the lust.

Water which broke under the threshold,
  Shall make me walk in the fore;
And face the greatest hailstones,
  Beat the waves, beat the fire; ]
    There is no such force
  As is thy Holy Spirit to for me.

And if thou give me the lively water,
  That which springs out from it,
Like a vast, swimmable river,
  Of the pure effects of divine grace;
    True comfort, pure peace,
  A portion of the feast of Canaan land.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~