Arglwydd, aml yw'm trallodwyr
A'm gelynion greulon ryw,
D'wedant hwy nad oes i'm henaid,
Iachawdwraeth yn ei Dduw;
Edrych Arglwydd mawr o'th ras,
Yn dosturiol ar dy was.
Ond Tydi wyt darian imi,
A dyrchafydd mawr fy mhen;
Ti yw'm hymffrost a'm gogoniant
Ar y ddaear, yn y nen;
Dan dy aden, gwnaf fy nyth,
A diogel fyddaf byth.
Gelwais arnat Arglwydd, Tithau
A wrandewaist ar dy was,
Ac o fynydd dy sancteiddrwydd
Rhoddaist imi help dy ras;
Minnau bellach, O! fy Nuw,
A'th foliannaf tra fwy'i byw.
Mi orweddais dan dy aden,
Ac a hunais yn dy hedd,
A deffroais wedi hyny,
Yn y bore'n
llon fy ngwedd;
Llechaf dan dy gysgod Di,
Yno mae fy ngobaith i.
Mi nid ofnaf fyrdd o bobl,
A ymgodent yn eu llid,
I ymosod yn fy erbyn,
Diystyraf hwynt i gyd;
Yn dy allu byddaf mwy,
Yn goncwerwr arnynt hwy.
Iachawdwriaeth sydd yn eiddot
Ti yn unig, Arglwydd mawr,
Fel y gwlith disgyna'th fendith
Ar dy bobl o'r nef i lawr;
Cenir iti
fawl di-lyth
Ar delynau Sïon byth.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [878777]: gwelir: Arglwydd Ti wyt darian imi |
Lord, many are my adversaries,
And my enemies of a cruel kind,
They say that there is for my soul no
Salvation in his God;
Look great Lord from thy grace,
Mercifully upon thy servant.
But Thou art a shield to me,
And the great lifter of my head;
Thou art my boast and my glory
On the earth, in the heaven;
Under thy wing, I will make my nest,
And safe will I be forever.
I called upon Thee Lord, upon Thee
And thou didst listen to thy servant,
And from the mountain of thy holiness
Thou gavest me the help of thy grace;
I henceforth, O my God,
Will praise thee as long as I live.
I lay under thy wing,
And slept in thy peace,
And awoke after this,
In the morning with my
joyful countenance;
I will shelter under Thy shadow,
There is my hope.
I will not fear a myriad of people,
Who would rise up in their anger,
To attack against me,
I will disdain them all;
In thy might I will be henceforth,
A conqueror over them.
Salvation belongs to thee
thee along, great Lord,
Like the dew descends thy blessing
On thy people down from heaven;
Never-failing praise
is to be sung to thee
On Zion's harps forever.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|