Anturiaf ymlaen,
Trwy ddyfroedd a thân,
Yn dawel yng nghwmni fy Nuw;
Er gwanned fy ffydd
Enillaf y dydd,
Mae Ceidwad pechadur yn fyw.
Mae f'enaid yn llon,
A'm pwys ar ei fron:
Er maint fy nhrallodion,
daw'r dydd
Caf hedeg yn glau
Uwch gofid a gwae,
Yn iach, a'm cadwynau yn rhydd!
David Davies 1763-1816
Tonau [558D]: |
I will venture forth,
Through waters and fire,
Quietly in the company of my God;
Despite the weakness of my faith
I shall win the day,
The Friend of sinners is alive.
My soul is cheerful,
As I lean on his breast:
Despite the extent of my troubles,
the day shall come
When I may fly swiftly
Above worry and woe,
Whole, with my chains free!
tr. 2013 Richard B Gillion
|
|