Amser, amser sy'n fy ngadael,
Tynu'r wyf at ben y daith,
Beth sydd genyf yn fy ngafael
Erbyn tragwyddolfyd maith;
Caf olygfa dra dyeithriol
Cyn bo hir ar fythol fyd,
O boed nerthoedd gras ysbrydol,
Yn fy arwain ar bob pryd.
Gwenu wnaf ar angeu creulon,
Ond cael 'nabod
Iesu a'i ras,
Yn teyrnasu ar fy nghalon,
Tra bwyf ar y ddaear las;
Ac wrth fyn'd trwy
rydiau'r afon,
Bydd y llusern yn fy llaw,
Bloeddio wnaf yn ddigon eon -
Buddugoliaeth sydd ger llaw.
Evan Jones 1797-1859
[Mesur: 8787D] |
Time, time is leaving me,
Drawing I am towards my journey's end,
What do I have holding me back
From a vast eternal world?
I shall have a view so strange
Before long upon an everlasting world,
O may the spiritual forces of grace,
Be leading me on every occasion.
Smile I shall upon cruel death,
If only I get to recognize
Jesus and his grace,
Reigning over my heart,
While ever I live on the green earth;
And while going through
the fords of the river,
There shall be a lantern in my hand,
Shout I shall sufficiently boldly -
Victory is at hand!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|