Arglwydd tirion, yn y bore
Trown ein hwyneb atat Ti:
Dyro Dithau yn ei oleu
O Dy wenau arnom ni:
Boed y llewyrch, sydd ar lwybrau
Anfarwolion glân y nef,
Ar ein llwybrau tywyll ninnau,
I'n goleuo tua thref.
Boed i'r ddaear faith ddistewi,
Er mwyn gwrando ar Dy lef;
Boed eneidiau heddyw'n holi
Am dangnefedd pur y nef:
Boed i'n calon flin orffwyso
Yn Dy gyntedd, yn Dy hedd,
Pan yn cofio'r Gwr fu'n rhodio
Fore'r trydydd
dydd o'r bedd.
Thomas Mafonwy Davies (Mafonwy) 1862-1931
Tôn [8787D]: Corinth ("Church Plain Chant" 1782) |
Tender Lord, in the morning
We turn our face unto Thee:
Give thou also in its light
Of thy smiles upon us:
May the radiance, which is on the paths
Of the holy immortals of heaven,
Be upon our dark paths also,
To enlighten us towards home.
May the vast earth fall silent,
In order for us to listen to thy cry;
May souls today be asking
For the pure tranquility of heaven:
May our weary hearts rest
In thy courts, in thy peace,
When remembering the Man who walked
On the morning of the third
day from the grave.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|