Arglwydd, 'rwyt yn hollwybodol,
Cyfiawn, santaidd ydwyt ti;
Ag un olwg 'rwyt yn canfod
Beunydd ein personau ni;
'Rwyt yn gwel'd ein gweithrediadau,
Gwyddost ein meddyliau'i gyd,
Noeth yw'r oll i'th lygaid treiddiol
Trwy holl barthau'r
eang fyd.
Arglwydd, nertha ni i blygu
'N edifeiriol wrth dy draed;
Ac i ymbil am faddeuant
Trwy rinweddau'r gwerthfawr waed;
Mae'n hangenion yn lliosog,
Ond mae'th gyfoeth di yn fawr;
Os gwnei'n hachub, ti gei foliant
Yn y wlad sydd uwch y llawr.
Evan Griffiths (Ieuan Ebblig) 1795-1873
[Mesur: 8787D] |
Lord, thou art omniscient,
Righteous, holy art thou;
With one look thou art finding
Daily our persons;
Thou art seeing our actions,
Thou knowest all our thoughts,
Naked is all to thy penetrating eyes
Through all the regions of the
the wide world.
Lord, strengthen us to bow
Repentantly at thy feet;
And to petition for forgiveness
Through the merits of the precious blood;
Our needs are manifold,
But thy wealth is great;
If thou savest us, thou shalt get praise
In the land that is above the earth.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|