Arglwydd, gad i'n henaid deimlo
Cyffyrddiadau d'Ysbryd Glân,
Fel y caffo ein calonnau
Brofi gwres y dwyfol dân:
Dyro fendith
A gryfha ein hegwan ffydd.
Mae d'elynion oll yn effro,
A'u byddinoedd yn cryfhau;
Cwynfan sydd ym mhebyll Seion
A'r ffyddloniaid yn prinhau:
Dyro inni
Gymorth dy ddeheulaw gref.
Ofer yw ein holl bryderon,
Ofer yw cynllyniau dyn,
Oni chawn o'r nefoedd uchod
D'ymweliadau Di dy Hun:
Gad in brofi
Grym dy addewidion mawr.
John James Williams 1869-1954
Tôn [878747]: Regent Square (Henry Smart 1813-79) |
Lord, let our soul feel
The touches of thy Holy Spirit,
That our hearts may get
To experience the heavenly fire's warmth:
Give a blessing
And strengthen our weak faith.
Thy enemies are all awake,
And their armies growing stronger;
There is complaining in the tents of Zion
And the faithful growing scarce:
Give to us
The help of thy strong right hand.
Useless are all our worries
Useless are the plans of man,
Unless we get from heaven above
Thine own visitations:
Let us experience
The force of thy great promises.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|