Arglwydd, dyro Dy dangnefedd
I sirioli daear lawr;
Gogonedda Dy drugaredd
Yng ngofidiau'r cystudd mawr;
Pan fo bywyd yn ymddatod,
Ac yn griddfan am ryddhad,
Gad i gystudd eto wybod
Fod yr Iesu yn y wlad.
Feddyg tirion, anffaeledig,
Parod wyt i wrando cri;
Ysbryd isel cystuddiedig,
Pwy a'i cyfyd fel Tydi?
Gwell na'r bywyd yw Dy gariad,
Gwell na'r byd
yw gwên Dy wawr;
Yn Dy ddwyfol gydymdeimlad
Aros yma, Iesu mawr.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 8787D] |
Lord, grant Thy peace
To cheer earth below;
Glorify Thy mercy
In the griefs of the great tribulation;
Whenever life be unravelling,
And groaning for freedom,
Let tribulation still know
That Jesus is in the land.
Gentle, unfailing Physician,
Ready thou art to listen to a cry;
A lowly, troubled spirit,
Who will raise like Thee?
Better than the life is Thy love,
Better than the world
is the smile of Thy dawn;
In Thy divine sympathy
Stay here, great Jesus.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|