Anturiaf etto 'mlaen,
Tu a'r baradwysaidd wlad;
Pam digalonna i'n lān,
Mae'n eiriol droswyf wa'd;
Adnewyddaf nerth, trwy rinwedd hwn,
Gorchfygaf gwn,
elynion gad.
Er ymladd lawer gwaith
Ā llu o elynion llym,
Hen Satan gyfrwys faith,
Yn eitha ei rwysg
a'i rym:
Disgwyliaf nerth o Seion draw,
Y maes o law daw cymmorth im'.
Er i mi dreio'n hir
Orchfygu pechod cās,
Mi fyddaf marw'n wir,
Yn lān cyn colli'r ma's;
Mewn nefol fyd mae brodyr im',
A brofodd rym
y gelyn cas.
Er bod fy meiau'n fawr,
Fe maddeu Iesu hael;
P'le mae Manasseh 'nawr,
Mair Magdalen a Saul?
Trwy waed yr Oes,
sy'n eiriol fry,
Mae hedd yn lli'
i bechadur gwael.
Er ofni o'm henaid tlawd
Ryfela ag angau dewr;
Ond yma'n wylo ca'w'd
Yr Hesecia fawr:
Caf finnau ras, i fentro trwy,
Orchfygol glwy' yr angau glās.
Er i mi ammau'n lān,
Hael gariad Iesu cu,
Bu Tomas o fy mlaen
Yn'r un rhyw bydew du;
Rho'm llaw yn ol yr hoelion dur,
Bellach yn wir,
mi greda'n hy'.
William Williams 1717-91
Tōn [666688]: Bethesda (<1811) |
I shall venture yet onward,
Towards a paradisiacal land;
Why shall I completely lose heart?
He is pleading blood for me;
I shall renew strength, through this merit,
I shall overcome, I know,
an army of enemies.
Although fighting many a time
With a host of keen enemies,
Old, greatly crafty Satan,
In the extremity of his ostentation
and his force:
I shall await strength from yonder Zion,
Whence help shall soon come to me.
Although I try for a long time
To overcome detestable sin,
I shall die truly,
Completely before losing the field;
In a heavenly world are brothers to me,
Who experienced the force
of the detestable enemy.
Although my faults are great,
Generous Jesus forgives;
Where is Manasseh now,
Mary Magdalene and Saul?
Through blood of the Lamb,
which is pleading above,
There is peace as a flood
for a base sinner.
Although fearing from my poor soul
Battling with brave death;
But here weeping was found
The great Hezekiah:
I too shall get grace, to venture through,
The overpowering wound of utter death.
Although I doubt totally,
The generous love of dear Jesus,
Thomas was before me
In the same kind of black pit;
Put my hand in the marks of the steel nails,
From then on, truly,
I shall believe confidently.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|