Am Iesu Grist a'i farwol glwy',
Aed miloedd mwy o sôn;
A d'weded pob rhyw enaid byw,
Mai teilwng ydyw'r Oen.
Fe ddaeth yn dlawd,
Etifedd nef,
I ddioddef marwol boen;
Myneged pob creadur bwy
Mai teilwng ydyw'r Oen.
Y llu angylaidd draetha'n awr
Am rinwedd mawr Ei boen;
Cyganed pawb o ddynol-ryw
Mae teilwng ydyw'r Oen.
Aed sôn am waed
yr Oen ar led
Y ddaear faith i gyd;
Gwybodaeth bur a chywir gred
Ymdaened dros y byd.
Fe ddaw'r blynyddoedd pur i ben
Pan d'wyno Efengyl gras,
Fel haul dysgleirwyn yn y nen,
O gylch i'r ddaear las.
Ac mi ddysgwyliaf hyfryd wawr,
Boreuddydd Jubili,
Pan ddelo holl
dylwythau'r llawr
I deithio i Galfari.
'Nol treulio oesoedd maith diri'
Yn canu'i glodydd glān,
O hyd ei fawl ar gynnydd fydd,
A newydd fydd y gān.
1-4: Thomas Jones 1769-1850
Tonau [MC 8686]: |
About Jesus Christ and his mortal wound,
May thousands more be going to talk;
A let every kind of living soul say,
That worthy is the Lamb.
He came as someone poor,
the Heir of heaven,
To suffer mortal pain;
Let every living creature express
That worthy is the Lamb.
The host of angels are expounding now
The great virtue of His pain;
Let everyone of human-kind chorus
That worthy is the Lamb.
May the mention of the Lamb's
blood go abroad
Over all the vast earth;
May the pure knowledge and true faith
Spread across the world.
The pure years are coming about
When the Gospel of grace shall shine,
Like a brilliant sun in the sky,
Around the blue-green earth.
And I await the delightfully dawn,
Of the morn of Jubilee Day;
When all the tribes of
the earth shall come
To travel to Calvary.
After spending vast unnumbered ages
Singing his holy honours,
Always his praise shall be increasing,
And new shall be the song.
tr. 2010,20 Richard B Gillion |
|