Am ddrws agored yn y nef,
Ag uchel lef diolchwn,
Am dy drugaredd, Arglwydd da,
Dy enw a foliannwn.
Pan gaeo drysau'r byd i gyd
Bydd hwn o hyd ar agor;
I dderbyn pob rhyw aberth gwir
Offrymir ar dy allor.
Mae gan yr euog le i droi
Pan fyddo'n ffoi'n ddinodded;
Dy gariad sy'n ei wahodd ef
I'r nef drwy'r drws agored.
Os temtiwyd ni gan ddrygau fyrdd
I adael ffyrdd y bywyd,
Bendithia ni'n yr oedfa hon
 chalon i ddychwelyd.
A dysg ni, pan fo
blin y daith
A'r ffordd yn faith i'w cherdded,
I gofio, o'th drugaredd Di,
Fod inni ddrws agored.
John James Williams 1869-1954
Tôn [MSD 8787]: Mary (J Ambrose Lloyd 1815-74) |
For an open door in heaven,
With a loud cry let us give thanks,
For thy mercy, good Lord,
Thy name we praise.
When all the doors of the world close
This shall still be open;
To receive every kin of true sacrifice
Offered on thy altar.
There is for the guilty a place to turn
Whenever fleeing without refuge;
'Tis thy love that invites him
To heaven through the open door.
If we were tempted by a myriad of evils
To leave the ways of life,
Bless us in this meeting place
With a heart to return.
And teach us, whenever
the journey's weariness
And the way be long to walk,
To remember, of thy mercy,
That for us there is an open door.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|