Er cael fy ngheryddu a'm gwasgu dan gur, A chospi fy natur gan nych, Mae llaw anweledig, enwedig y nef I'm harwain at gartref hardd gwych; Er treulio fy einioes, nid hiroes yw hon Dan fawrion beryglon heb ri', Mae Angel bach tirion o olwg y byd A werchyd fy mywyd i mi! Er goddef dan nerthoedd galluoedd y llid Mewn gwendid - mae'n ofid yn awr, Cair gadael i bydru yngwaelod y bedd Holl waeledd a llygredd y llawr; Er bod yn fy erbyn y gelyn yn gwau Ei faglau a'i rwydau di ri'! Mae Angel bach tirion o olwg y byd A werchyd fy mywyd i mi! I'm gwarchad yn ddyfal i 'm gynnal fel gŵr Mae gofal cenadwr y nef, Nid golwg a thremyn marwolddyn a wêl E'i dawel a'i ddirgel ffordd ef; Er goddef dan flinder cyfyngder yn f'oes, gwyro dan groes oeraf gri, Mae Angel bach tirion o olwg y byd A werchyd fy mywyd i mi! Pan fyddwyf dan dristyd oblegyd byd blin, A'r gelyn, a'i fyddin yn fawr, Daw'r nefol warcheidwad rhag oernad ac och Ar gymmwl goleugoch i lawr, Mewn eithaf enbydrywdd nid dedwydd nôd da Dan wasgfa gan losgfa neu li', Mae Angel bach tirion o olwg y byd A werchyd fy mywyd i mi! Os anhawdd ymgadw yn loyw a byw'n lân Yn gyfan heb ogan y byd, Addewid ddiammod dra pharod a phur Sydd gyflawn o gysur i gyd: Er gwaethaf dra ffyrnig golledig y llŷn A chryfed i'm herbyn yw hi, Mae Angel bach tirion o olwg y byd A werchyd fy mywyd i mi! Ond nid yw yr angel gwiw uchel ond gwas Dros Frenhin yn ninas y ne', Mae'n rhoddi'n ddibechod ufudd-dod o'i fodd I'r Gŵr a'i hanfonodd efe: Creawdwr angylion a dynion yw Duw Ni welwyd yr unrhyw erioed: Pob mawl am ei nodded ogoned deg waith I'w enw 'n faith berffaith fyth bo'ed.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 [Mesur: 11.8.11.8.D] |
Despite my being rebuked and pressed under pain, And my nature punished by sickness, There is n unseen hand, namely of heaven, To lead me to a brilliant beautiful home; Despite spending my lifespan, Not a long age is this Under great dangers without number, There is a tender little angel, out of the world's view, That guards my life for me. Despite suffering under the strong powers of the wrath In weakness - it is a grief to me now, Left to decay in the bottom of the grave, can all the baseness and corruption of earth be; Although against me the enemy weaves His snares and his nets without number! There is a tender little angel, out of the world's view, That guards my life for me. To guard me diligently to uphold me like a husband Is the care of heaven's emissary, 'Tis not the sight and vision of mortal man that sees His quiet and his secret way; Despite suffering under the grief of straits in my age, bending under an adverse coldest cry, There is a tender little angel, out of the world's view, That guards my life for me. When I am under sadness because of a grievous world, And the enemy, and his army being great, Comes the heavenly guardian against lamenting and woe On a bright red cloud down, In the most extreme danger not a happy good mark Under pressure from burning or flood, There is a tender little angel, out of the world's view, That guards my life for me. If difficult to keep oneself bright and living cleanly Wholly without the derision of the world, An unconditional promise so ready and pure Is full of all comfort: Despite the furious lost dragon of the lake And how strongly against me it is, There is a tender little angel, out of the world's view, That guards my life for me. But the worthy angel is not high but a servant For a King in the city of heaven, He gives sinlessly obediently of his volition To the Man who sent him: The Creator of angels and men is God No-one like him has ever been seen: All praise for his protections ten times as glorious To his name vastly perfect forever be. tr. 2023 Richard B Gillion |
|