Ynglynion Gnodau

(Dull y Gogynfeirdd)

Ynglynion Gnodau
(Dull y Gogynfeirdd)
Gnawd i Faban geisio'r fron,
Gnawd i Fam dyner galon,
Gnawd i arfawg elynion.

Gnawd i swrth drafferth yn hwyr,
Gnawd i berchen gasglu'n llwyr,
Gnawd i wenyddawl synwyr.

Gnawd i ddysgedig Lyfrgell,
Gnawd i nwyfus angeu pell,
Gnawd i goeg wawdio ei well.

Gnawd i ddiawg gardota,
Gnawd i butain ddig'w'lydd-dra,
Gnawd i leidr ddod i'r ddalfa.

Gnawd i esgeulus ddau waith,
Gnawd i anghofus ddwy daith,
Gnawd i euawg ofn cyfraith.

Gnawd i ieuangc ynfydrwydd,
Gnawd i ledfalch waradwydd,
Gnawd i rychwannawg aflwydd.

Gnawd i ffyddlawn ymddiried,
Gnawd i gywir ymwared,
Gnawd i ddiofal golled.

Gnawd i ryfygus ruthro,
Gnawd i ynfyd anturio,
Gnawd i uchelfryd gwympo.

Gnawd i fuddugawl ganu,
Gnawd i fyfyriawl synu,
Gnawd i wybodawl draethu.

Gnawd i feddw ysgwyd llaw,
Gnawd i eiddigus daraw,
Gnawd i ystyriol wylaw.

Gnawd i bwyllawg ei ddyben,
Gnawd i athrist wyraw pen,
Gnawd i iach lygaid llawen.

Gnawd i ddigerydd garchar,
Gnawd i anwydawg dabar,
Gnawd i foethus fyw'n anwar.

Gnawd i ddoeth yw ymofyn,
Gnawd i gaethwas erfyn,
Gnawd i anffyddiawg ddychryn.

Gnawd i fursen rodresu,
Gnawd i siaradus gablu,
Gnawd i dwyllodrus wenu.

Gnawd i unig fyfyriaw,
Gnawd i alarus gwynaw,
Gnawd i ddiwydfryd lwyddaw.

Gnawd i oludawg rwgnach,
Gnawd i serchog gyfathrach,
Gnawd i addfwyn gyfeillach.

Gnawd i ddistaw lonyddwch,
Gnawd i foddlawn ddyddanwch,
Gnawd i gyndyn ddyhirwch.

Gnawd i gynhenus draha,
Gnawd i hael
    ei hir goffa,
Gnawd i foesawl enw da.

Gnawd i ufudd ei hoffi,
Gnawd i gelwyddawg gochi,
Gnawd i drosoddwr welwi.

Gnawd i brofiadawl wybod,
Gnawd i dduwiol fawr drallod,
Gnawd i Dduw gasau pechod.

Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841
Blodau Arfon 1842

gwelir: Rhan II

Verses on Commonalities
(In the manner of fairly early poets [1100-1350])
Usual for a Baby to seek the breast,
Usual for a Mother - a tender heart,
Usual for the armed - enemies.

Usual for the drowsy - trouble later,
Usual for an owner to collect everything,
Usual for the bee-like - sense.

Usual for the learned - a Library,
Usual for the vigorous - a distant death,
Usual for the false to mock his betters.

Usual for the lazy to beg,
Usual for a harlot - shamelessness,
Usual for a thief to come to the prison.

Usual for the careless - twice the work,
Usual for the forgetful - two journeys,
Usual for the guilty - fear of the law.

Usual for the young - stupidity,
Usual for the arrogant - reproach,
Usual for the covetous - misfortune.

Usual for the faithful - trust,
Usual for the true - deliverance,
Usual for the careless - loss.

Usual for the reckless to rush,
Usual for the foolish to take risks,
Usual for the haughty to fall.

Usual for the victorious to sing,
Usual for the contemplative to marvel,
Usual for the knowledgeable to expound.

Usual for the drunk to shake hands,
Usual for the jealous to beat,
Usual for the thoughtful to weep.

Usual for the prudent - his intent,
Usual for the sorrowful to bow the head,
Usual for the healthy - cheerful eyes.

Usual for the unreproved - prison,
Usual for the cold - a cloak,
Usual for one fond of luxury to live wildly.

Usual for the wise is to ask,
Usual for a slave to plead,
Usual for the unbelieving - terror.

Usual for the vain to boast,
Usual for the talkative to traduce,
Usual for the deceitful to smile.

Usual for the lonely to meditate,
Usual for the mournful to lament,
Usual for the industrious to succeed.

Usual for the rich to grumble,
Usual for the affectionate to associate,
Usual for the meek - companionship.

Usual for the quiet - calm,
Usual for the satisfied - comfort,
Usual for the obstinate - wickedness.

Usual for the contentious - haughtiness,
Usual for the generous -
    his long being remembered,
Usual for the moral - a good name.

Usual for the obedient - being liked,
Usual for a liar to blush,
Usual for a transgressor to go pale.

Usual for the experienced to know,
Usual for the godly - great trouble,
Usual for God to hate sin.

tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~