Torriad y Dydd

Yn brithio mantell t'wyllwch du

Torriad y Dydd
Yn brithio mantell t'wyllwch du
  Mae gwawr goleuni mwyn, -
Hyfrydwych ddydd o'r moroedd draw
  Olwynion haul sy'n dwyn:
Bu e'n ymweled ar ei daith
  A pharthau pella'r byd;
Mor ffyddlon y dychwela 'nol
  Yn gywir yn ei bryd:
O'i flaen y daw cennadon dwys,
  Eu rhif na ddatgan iaith,
Yn llu pelydrawg, yn cryfhau
  Bob ennyd ar eu taith.

Y ceiliog' ar ei uchel glwyd
  Sydd wedi rhoddi'r gân,
Yn rhybudd in' fod dydd yn d'od
  Ar gerbyd goleu glân:
Ni welwn gynneu ddim o'r coed, -
  Mi wela' 'r dail yn awr:
Yr wybren yn y dwyrain draw
  Sy'n siriol iawn ei gwawr:
Fry o'r simneiau wele'r mwg
  Yn codi'n arwydd cu,
Fod dydd yn nesu, gan gyffroi
  Bywiogrwydd ym mhob tŷ.

Yn brathu trwy y perthi tew
  Mae'r carwr tua thref,
Yn ol hir aros gyda Gwèn,
  Lle'n ddifyr iawn bu ef.
Mae'r adar bach ym mrigau'r coed
  Yn fywiog iawn bob un, -
Ac mi a welaf ym mhob man
  Holl anian ar ddihûn:
Fel yn y bedd dros dro bu'r byd
  Yn ddistaw ac ynghlo,
Heb swn ond swn y cornant gwyllt,
  Neu'r awel ar ei ffo.

Ond wele etto hyfryd ddydd
  A'i lewyrch mwyn a llon,
A phwy na ddyry lawen gân
  O dwym serchiadol fron?
O! groeso iti, heulwen hardd,
  A brysia uwch y lli',
I euro pen y mynydd ban
  A'th hyfryd lewyrch di:
Ni welaist ti dywyllwch cas
  Erioed; ni wyddost chwaith
Pa fath beth yw, - efe a red
  O'th flaen ar gyflym daith;

A daw ar d'ol, - ond i dy wydd
  Ni feiddia ddyfod byth:
Ynghanol hwn trwy'r nos, O haul,
  Mae dyn yn gwneyd ei nyth.
I'r golwg daccw'n dechreu d'od
  Glân lygad cawr y nef,
A phelyderau disglair hardd
  Yn wallt ei amrant ef:
Mi feiddiaf edrych arno 'nawr
  Mae'i wedd yn dirion iawn:
Pwy arno sylla maes o law,
  Yng ngwres canolddydd llawn?

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Gwinllan y Bardd Daniel Ddu 1831

The Break of Day
Speckling the cloak of black darkness
  Is the dawn of gentle light, -
Delightfully brilliant day from yonder seas
  Wheels of the sun are bringing:
He has visited on his journey
  The distant regions of the world;
How faithfully he will return again
  Correct in his time:
Before him come devoted emissaries,
  Their number no language can express,
A radiant host, strengthening
  Every moment on their journey.

The cockerel on his high perch
  Has given the song,
Warning us that day is coming
  On a chariot of pure light:
We see no blazing/kindling at all from the wood, -
  I see the leaves now:
The sky in yonder East
  Has a very cheerful dawn:
Up from the chimneys see the smoke
  Rising as a dear sign,
That day is approaching, exciting
  Liveliness in every house.

Biting through the thick shrubs
  Is the lover towards town,
After long staying with Venus,
  Where he was greatly entertained.
The little birds in the top twigs of the wood are
  Very lively every one, -
And I can see everywhere
  All nature awake:
As in the grave temporarily was the world
  Quietly and locked,
With no sound but the sound of the wild rill,
  Or the breeze fleeing.

But see again a delightful day
  And its gentle and cheerful gleam,
And who will not give a joyful song
  From a warm affectionate breast?
O welcome to thee, beautiful sunshine,
  Who dost hurry above the flow,
To make golden the head of the mountain beacon
  With thy delightful gleam:
Thou didst not see the detestable darkness
  Ever; thou didst not know either
What kind of thing it is, - it has run
  From before thee on a swift journey;

And it shall come after thee - but to thy presence
  It will not dare to come ever:
In the middle of this throughout the night, O sun,
  Man is making his nest.
To the sight yonder beginning to come
  The pure giant eye of heaven,
With beautiful, shining rays
  His eyelashes:
I will dare to look upon him now
  His face is very tender:
Who will gaze upon him soon,
  Yn the heat of full midday?

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~