Englynion i Dafod Twyllodrus

Tafod blin erwin arwydd - twyllodrus

(Englynion i Dafod Twyllodrus)
Tafod blin erwin arwydd, - twyllodrus,
  Tŷ lladrad ac aflwydd:
  Gwiliwch, fe ddywed gelwydd,
  O anian gâs, yn ein gŵydd.

Weithiau bydd e'n llefrithaidd - ei eiriau,
  A'i araith yn ddofaidd;
  Ond rhagfarn ddu, haiarnaidd,
  Anian rôch, sy'n un â'i wraidd.

Ei g'wilyddus gwlwyddau - yn ddioed
  A ddeuant o'i enau,
  A'u ddidawl wradwyddiadau,
  Nid llûn gwir, ond oll yn gau.

Ni wyddoch oll hên ddichellion -
      twyllwr,
  Mae'n dallu'ch golygon;
  Ni thraidd hyfryd fryd i'w fron,
  Neu g'wilydd, byth i'w galon.

Gwneud cynnwrf, a thwrf, a therfysg -
      eilwaith,
  Yw elfen ei addysg;
  Enyn y mae yn ein mysg
  Ddu gamwedd yn ddigymmysg.

Arglwydd, beth fwy gwradwyddus - i'th hyfawl
  Na thafod twyllodrus?
  E dry nerth dy air yn ûs,
  Yn hollawl annëallus.

Trwy ei dwyll trowyd allan - ugeiniau,
  Neu gannoedd, i ruddfan;
  Och ddiafl, a'i dafod aflan,
  Ellyn dûr yn llawn o dân!

Yn Eden, le hynodawl, - agorwyd
  Rhai geiriau rhagrithiawl;
  E ddenwyd y rhyw ddynawl
  I golli hedd, a gwedd gwawl.

I Naboth bu gwrthwynebwyr - ffyrnig,
  Uffernawl lofruddwyr. -
  Trwm yw synied gweithred gwŷr,
  Dynion â'i'n anudonwyr.

Ni's diangai Hustyngwr, -
      na'i gyfaill,
  O gôf eu Creawdwr;
  Ni fỳn Duw, fy iawna' Dŵr,
  Un dyn f'o'n anudonwr.

Am dagu ei holl gym'dogion - difai
  Mae dyfais ei galon;
  Ni chyll ei gâs ddichellion:
  Och arw sail, a chwerw yw sôn!

Rhwng cym'dogion llon eu llais -
      â'u gilydd
  Y gwelwyd ei falais;
  Och mor lèm ei drèm a'i drais!
  Diafol yw o ran dyfais.

Rhwng brodyr ehangai bradwch - goleu,
  Lle gwelwyd tirionwch;
  Ei eiriau sy'n fflamau fflwch
  Yn dilyn anwadalwch.

Rhwng mab a thad, brâd ar brydiau -
      a fu,
  O fewn ein hamserau;
  O herwydd ei gelwydd gau
  Y diweddwyd eu dyddiau.

Rhwng gŵr a gwraig, draig y drygau -
      ydyw,
  Ni dy'n ddiamau
  Bur araith wiw-bêr eiriau; -
  Fe ddeil dwyll i feddwl dau.

Magu pob drwg ddych'mygiad - am eraill
  Ymyraeth yn wastad
  I ddal sŵn yn ddileshâd;
  Oferedd yw ei fywriad.

Mae nôd ei bennod beunydd - i'w gweled,
  Er galar i'n gwledydd;
  A'i eiriau, fal saethau, sydd
  Eirf a'u mîn ar fy 'mennydd.

I fronau Dafydd Frenhin - ei eiriau
  Fu oeraidd a thra-blin;
  I luoedd ei floedd fu'n flîn,
  A'i dafod yn gledd deufin.

O'i rwydau pwy all redeg - neu gilio
  Rhag gelyn mor ffraeth-deg?
  Nôd o ddiawl, nid un o ddeg
  A'i edwyn yn ei adeg.

Erglyw ein llef, O Arglwydd! - a gwared
  Ni rhag geiriau celwydd;
  Gwna bawb yn llestr gonestrwydd,
  O anian gall yn ei gŵydd.

Absalom Roberts 1780?-1864
Loches Mwyneidd-dra 1832

(Verses to a Deceptive Tongue)
A grievous tongue a rough sign - deceptive,
  The house of theft and misfortune:
  Watch out, it tells a lie,
  From a detestable nature, in our presence.

Sometimes it is milky - its words,
  And it's oration mild;
  But black, iron hypocrisy,
  A grumbling nature, are one with its root.

Its shameful lies - which ceaselessly
  Come from its mouth,
  With their unceasing reproaches,
  Not a true image, but all false.

You do not know all the old wiles -
      of a deceiver,
  He blinds your sight;
  No need of a lovely intention to his breast,
  Or shame, ever to his heart.

Making a commotion, and din, and tumult -
      again,
  Is the principle of its teaching;
  Kindling it is amongst us
  An unmixed, black transgression.

Lord, what more disgraceful - to thy praise
  Than a deceptive tongue?
  It turns the strength of thy word into chaff,
  Wholly lacking understanding.

Through its deception was turned out - scores,
  Or hundreds, to groaning;
  Oh, the devil, and his unclean tongue,
  A steel blade full of fire!

In Eden, a notable place, - was opened
  Some hypocritical words;
  The human species was attracted
  To lose peace, and the countenance of light.

To Naboth who was a rebel - furious,
  Hellish murderers, -
  It is heavy to consider the action of men
  Men becoming perjurers.

The Slanderer shall not escape, -
      nor his friend,
  From the memory of their Creato;
  God will not permit, my most upright Tower,
  That any man be a perjurer.

Wanting to choke all his neighbours - faultless
  Is the scheme of his heart;
  He will not lose his detestable deceptions,
  O a rough basis, and bitter is a mention!

Between neighbours with cheerful voice -
      with each other
  His malice is seen;
  Oh how sharp his gaze and his violence!
  The devil is on the side of his scheme.

Between brothers betrayal would escape - light,
  Where tenderness was seen;
  His words are a prodigious flame
  Following inconstancy.

Between son and father, treachery at times -
      which was,
  Within our times;
  Because of his false lying
  Their days were ended.

Between a man and woman, a dragon of evil -
      he is,
  He will not leave doubtless
  A pure oration of worthy, sweet words; -
  He will hold deception to thought of two.

Nurturing every evil imagination - for others
  Interference constantly
  To hold a sound to no benefit;
  Worthless is his purpose.

The aim of his daily verse - to see him,
  For the mourning for our lands;
  And his words, like arrows, are
  Weapons with their edge on my mind.

To the breasts of King David - his words
  Were chilly and so grievous;
  To hosts his shout was grievous,
  And his tongue a two-edged sword.

From his bonds who can run - or retreat
  From an enemy so finely eloquent?
  The aim of the devil, not one of ten
  Shall recognize in his time.

Listen to our cry, O Lord! - a deliver
  Us from lying words;
  Make all a vessel of honesty,
  Of a wise nature in his presence.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~