Mae'r adar cynar yn canu, - felus Wiw foliant i'r Iesu; Galwant adeiniog wiwlu, Foreuddydd, ar Ddafydd Ddu. Dyma'r gân, hoywlan yw hi, - gu lawen A glywaf o'r llwyni; Clyw ein llais, a'n adlais ni; - Y Cysgadur, - cais godi! Clyw ddadgan un rhàn yn rhwydd, - Iaith gofus O'th gyfiawn ddyledswydd: Dyro fawl, rasusawl swydd; Diweirglod i dy ARGLWYDD. Ym mangoed, glasgoed y glỳn, - Pregethwr Pur goeth yw'r aderyn; Fe gân glod, hynod yw hyn, Boreugerdd, ar y Brigyn. Minnau, â'm tròm awenydd, - ffaeledig, Ffol ydwyf o BRYDYDD: Rhŷ sŷch, yn fynych a fydd Fy enaid yn EIFIONYDD. Erfyniaf ar NAF, yn fy nydd, - gu nerth Ei gynnorthwy beunydd; I dreulio'n iawn, radlawn rydd Fy einioes yn EIFIONYDD. Pan ddêl oes, byroes i ben, - a dŷnir Dannedd y genfigen; Câf orwedd dan lygredd lèn Mor dawel a 'mrawd OWEN. Af i orwedd at Feirwon, - i gaerau O gyrhaedd gelynion; Tŷf uwch priddlyd fraedllyd, fròn Flodau gwiw lysiau gleision. Ar bèn yr YWEN ir wedd, - o gariad Agorir hiraethgerdd; Yr Adar, ar gynar gerdd, Dysgysant fy mhriodasgedd. Daw'n rhwydd ddistawrwydd ystyriawl, - i'r Bod Neu'r Abwydyn marwawl; Pa ddaear fud, - pwy ddyr fawl Yn eigion Bedd unigawl! Fy enaid, o Dduw cyfiawnaf, - cymmer O'm camwedd afflanaf; Wyt nawddfawr, un nerthfawr Nâf, I dy ddwylaw'r dydd olaf!
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 |
The birds are early singing, - sweet
Worthy praise to Jesus;
A worthy, winged host call
In the morning, on Dafydd Ddu.
This is the song, vivaciously pure it is, - dearly joyful
I hear from groves;
Hear our voice, and our echo; -
O sleeper, - try to get up!
Hear the expression of one part freely, - a mindful Language
From thy righteous duty:
Render praise, a gracious task;
Pure acclaim to the LORD.
In shrubs, greenwood and valley, - a Preacher
Pure, refined is the bird;
He sings praise, remarkable is this,
Morning-song, on the Twig.
I will implore the MASTER, in my nest, - the dear strength
Of his daily help;
To spend aright, graciously free
My lifespan as ONE FROM EIFION.
As for me, with my heavy patience, - failed,
Foolish am I of a POET:
Too dry, insistently shall be
My soul ONE FROM EIFION.
When an age, a short age, come to an end - and to be pulled
Are the teeth of jealousy;
I will get to lie under a curtain of corruption
As quiet as my brother OWEN.
I will go to lie with the Dead, - to fortresses
Out of the reach of enemies;
To grow up above an earthy, putrid breast
Worthy flowers of green herbs.
At the head of the YEW of fresh apprearance - of love
To be opened is a lamentation;
The Birds, on early music,
Teach my nuptial song.
Considerable silence will come easily, - to the Being
Or the mortal Worm;
What mute earth, - who will give praise
In the depths of a lonely Grave!
My soul, O most righteous God, - take
From my most unclean misdeed;
Thou art greatly protective, one greatly strong Chief,
Into thy hands on the last day!
tr. 2016 Richard B Gillion |