Y Lleuad

Mor fwyn yw goleu'r Lleuad

Y Lleuad
Mor fwyn yw goleu'r Lleuad,
  Ar hyd y nos,
Sydd yn hwylio fy ngherddediad,
   Ar hyd y nos;
Mae ei gwawr a'i gwên yn siriol,
Lân Frenhines hardd wybrenol;
Mae ei gwel'd yn llwyr ddymunol,
  Ar hyd y nos.

O! mor hyfryd yw ei chodiad,
  Ar hyd y nos,
Uwch y bryn yn goron lwysfad,
  Ar hyd y nos;
Y mae'r t'wyllwch yn ymgilio,
Y mae'r ffordd yn hardd oleuo,
Y mae 'nawr yn rhwyddach llwybro
  Ar hyd y nos.

Tra mae'r heulwen yn ein gado,
  Ar hyd y nos,
Mewn tywyllwch du ei amdo,
  Ar hyd y nos;
Y mae'r Lleuad wych yn dyfod
Yn ei thro'n garedig hynod,
Er lleihau ein cur a'n trallod
  Ar hyd y nos.

Y mae'r dwr mor wyn â'r arian
  Ar hyd y nos,
Gan oleuni'r Lleuad fwynlan
  Ar hyd y nos;
Pawb yn awr gânt dd'od o'u neges
Adre'n rhwydd i'w lletty cynnes,
Trwy gynnorthwy'r Lleuad hyles,
  Ar hyd y nos.

Pan fo dyn dan drymder meddwl
  Ar hyd y nos,
A'i obeithion oll dan gwmmwl
  Ar hyd y nos,
Hoff yw ganddo ef yn wastad,
Fel mwyn eli i'w ddoluriad,
Rodio'r maes wrth oleu'r Lleuad
  Ar hyd y nos.

Edrych arno ef wna honno
  Ar hyd y nos,
Fel cyfeilles burlan iddo
  Ar hyd y nos;
Fe a deimla fel pe'n ddiau
Na b'ai dim a wnaeth Duw gorau
'Nawr ar glawr ond ef a hithau,
  Ar hyd y nos.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

[Mesur: 8484.8884]

The Moon
How soothing is the light of the Moon,
  All night long,
Which directs my walking,
  All night long;
Its dawn and its smile are cheerful,
Pure, beautiful, heavenly Queen;
Seeing her is completely desirable,
  All night long.

Oh, how lovely is her rising,
  All night long,
Above the hill as a virtuously comely crown,
  All night long;
The darkness is retreating,
The wa is beautifully light,
It is now a more accessible path
  All night long.

While the sunshine is keeping us,
  All night long,
In the black darkness of his shroud,
  All night long;
The brilliant moon is coming
In her turn remarkably kindly,
In order to lessen our stroke and our trouble
  All night long.

The water is as white as the silver
  All night long,
By the light of the purely lovely Moon
  All night long;
All now may get to bring their message
Home freely to their warm lodging,
Through the help of the beneficial Moon,
  All night long.

When a man is under the heaviness of thought
  All night long,
And all his hopes under a cloud
  All night long,
Lovely it is to him constantly,
Like soothing ointment to his sorrow,
To wander the field by the light of the Moon
  All night long.

Look upon him will she
  All night long,
Like a pure, holy companion to him
  All night long;
He shall feel as if doubtless
There would be nothing that God has made better
Now in existence but him and her,
  All night long.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~