Llawenodd fy holl anian - a'm henaid

(Englynion a draddodwyd
ar agoriad Eisteddfod)
Llawenodd fy holl anian, - a'm henaid,
  Mi hònaf yn gymman,
  O weled torf mor wiwlan
  Yn hofi'r iaith, loew-iaith lân.

Ca'dd hon archollion erchyllaidd, - ei throi,
  A'i thrin yn anweddaidd,
  Ei gado i grino 'i gwraidd
  Yno'n oer, yn aniraidd.

O ddynion, na ymddiddenwch - â Sais,
  Os yw ef am heddwch;
  A'i ddu falais, mewn trais trwch,
  Och! â'i ffordd na chyffyrddwch.

Er erlid,
   a'u llid hwy'n lledu, - etto
  Wiw 'hattal i ffynnu;
  Fe fâg hon,
      â'i bron o'i bru,
  Ei cheraint fyrdd i'w charu.

Erddynt oll,
    digoll o degwch - yw'r iaith,
  Er eithaf diddanwch;
  Agorir cyfeillgarwch
  Y'ngolau ei fflamau fflwch.

Grwgnachrwydd a'i lwydd
    a leddir - yn farw,
  A'i furiau ddattodir;
  Cyfeillgarwch, heddwch hir,
  Da liwdeg adeiledir.

Purach cyfeillach a fydd - â Siloh,
  Yn Nghaersalem newydd;
  Duw'n dygo, pan ddelo'i ddydd,
  Oll yno mewn llawenydd.

Absalom Roberts 1780?-1864
Loches Mwyneidd-dra 1832

(Verses passed on
at the opening of an Eisteddfod)
My whole nature rejoiced, - and my soul,
  I claim competely,
  From seeing a throng so cleanly worthy
  Loving the clear-spoken, clean language.

These hideous wounds got, - turned,
  With its improper treatment,
  Left for its root to shrivel,
  There cold, stale.

O men, do not converse - with a Saxon,
  If he is for peace;
  With his black malice, in thick oppression,
  Oh! with his road do not meet.

Despite persecution,
    and their anger spreading, - still
  It avails nothing to stop succeeding;
  He will nurture this,
      and almost from his womb,
  His myriad of kin to love.

For all that,
    not lacking fairness - is the language,
  For the extreme interest;
  Friendship is to be opened
  In the light of its valiant flame.

Grumbling shall succeed
    in being spread - in dying,
  And its walls are to be undone;
  Friendship, long peace,
  Are to be rebuilt in good fair colour.

Purer friendship shall be - with Shiloh,
  In the new Jerusalem;
  God will bring, when his day comes,
  All there in joy.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~