Gwreichionen dān anadliad Duw
Ymād o'r babell
'rwyt yn byw;
Er rhoddi'r corph
drwy loes i lawr,
Marwolaeth sydd yn fendith fawr:
Na rwgnach gnawd, - drwy lesmair gād,
I minnau hedeg i'r mywnhad!
Mae sain llawenydd uwch y llawr,
Trigolion nef yn galw yn awr:
I boen a gofid cān yn iach;
Ce'i newid byd,
cu enaid bach:
Ni ddaw na phechod, cur na phoen
I fewn i lŷs y nefol Oen.
'Rwy'n d'od ar frys o'r babell frau,
'Rwy'n teimlo'r anadl yn byrhau:
Pa beth yw hwn sy'n dylu'r wawr?
Mae'n gwasgu f'ysbryd llesg i lawr:
Mae'n boddi' synwyr -
dwyn y clyw,
O enaid mau, a'i angau yw?
Yn iach i'r byd, - mi glywa' eich llef,
Seraphiaid, heirdd anwyliaid nef;
Wrth nerth eich eurwych edyn chwi
I fyd anfarwl hedaf fi:
Nid ofnaf loesau angau llym,
Mewn gafael llaw mae'n gyfaill i'm!
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 [Mesur: 88.88.88] |
Sparks of the fire of God's breath
Shall leave the tent
in which thou art living;
Although bringing the body
through anguish down,
Death is a great blessing:
Nor grumble flesh, - by fainting, let
Me fly to my enjoyment!
There is a sound of joy above the earth,
The inhabitants of heaven calling now:
To pain and grief farewell;
Thou wilt get a new world,
dear little soul:
No sin shall come, wound nor pain
Within the court of the heavenly Lamb.
I am coming quickly from the fragle tent,
I am feeling the breath shortening:
What is this that is treading the dawn?
It is squeezing my feeble spirit down:
It is drowning sense -
bringing the disease,
O my soul, is it death?
Farewell to the world, - I hear your cry,
Seraphim, splendid beloved ones of heaven;
By the strength of your golden wings
To an immortal world I fly:
I shall not fear the pangs of sharp death,
In a hand's grasp it is a friend to me!
tr. 2017 Richard B Gillion |
|