Diolchgarwch am ein Creadigaeth

I'r annherfynol fythol Fôd

Diolchgarwch am ein Creadigaeth
I'r annherfynol fythol Fôd,
  Sy'n hynod Dri Phersonau,
Y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân,
  Cyhoeddaf gân â'm genau.

I'r Duw a'm ffurfiodd yn y bru
  A'i allu'n ol ei 'wyllys,
Dymunwn roddi nos a dydd
  Addoliad rhydd yn ddilys.

Fe roes fy llygaid yn eu lle,
  Fel hardd ganwllau'n hollol,
Ac O! mor hyfryd ydyw rhai'n
  I'm harwain yn dymhorol!

Fe roddodd glustiau wrth fy mhen,
  Yn rhad, sy'n anghenrheidiol,
Heb rhai'n mi f'aswn ymhob man
  Yn fyddar ac unfuddiol.

Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

[Mesur: MS 8787]

Gratitude for our Creation
To the infinite eternal Being,
  Who is notably Three Persons,
The Father, the Word, and the Holy Spirit,
  I will publish a song with my mouth.

To the God who formed me in the womb
  With his power according to his will,
I would wish to render night and day
  Ready worship unfailingly.

He set my eyes in their place,
  Like beautiful candles wholly,
And oh, how delightful they are
  To lead me seasonally!

He put my ears by my head,
  Freely, which are necessary,
Without those I would be everywhere
  Deaf and mute.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~