Y Bibl Gymdeithas

Daeth llawer hen bagan debygid

Y Bibl Gymdeithas
Daeth llawer hen bagan debygid,
  I wel'd ei aflendid yn flin,
Ac hefyd i brofi pur ryfedd
  Effeithiau'r gwirionedd
      a'i rîn;
Ac hefyd ehangfyd dihangfa,
  O'i garchar: -
      wel dyna liw dydd!
Dymuno llwydd Bibl Gymdeithas,
  Pob teyrnas cyfaddas
      a fydd.

Americ ab Affric a gyffry,
  Ac Asia a ddeffry'n ddiau,
Ac Ewrop lawn glodwych a'i gwledydd,
  Boreuddydd y sydd yn nesau,
Trwy lafur cyd-frodyr
    o Frydain,
  A' rhei'ny tan adain y nef,
I lawer gwawr dyner ymdanodd,
  Tros foroedd cyrhaeddodd yn gref.

Edward Jones 1761-1836
Cofiant Edward Jones 1839

The Bible Society
Many an old pagan came, it is supposed,
  To see his uncleanness grievously,
And also to experience the pure wonder
  Of the effects of the truth
      and its merit;
And also the breadth of escape
  From his prison: -
      see here is the colour of day!
To wish success to the Bible Society,
  Of every appropriate kingdom
      there shall be.

African America shall stir,
  And Asia shall awaken doubtless,
And excellent Europe and its lands,
  In the morning who are drawing nigh,
Through the labour of fellow-brothers
    from Britain,
  With those under the wings of heaven,
To many a tender dawn it spread,
  Over seas it arrived strongly.

tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~