Cerdd Hela

Mae awelon dydd yn deffro

(Cerdd Hela)
Mae awelon dydd yn deffro,
Gwelwch ruddiau'r boreu'n gwrido;
  A glywch chwi sain
      corn hela'r Gelli
  Yn rhoi tafod i'r Clogwyni?
Twrf helyddion - cŵn yn udo,
Pob peth megys yn cydfloeddio,
  "Heddiw ydyw'r dydd i ddala
  Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa!"

Dacw'r gywiog dyrfa'n cychwyn,
Ac yn mlaenaf yn y fyddin
  Gwelir ar ei helfarch gwisgi
  Goneddigaidd wr y Geli:
A'i gâr ymffrost Blaen-y-Corrwg,
Mêl ac enaid hil Morganwf:
  O gwm i fynydd, dacw'r dyrfa
  'Nawr yn ymyl Craig-y-Byllfa.

Oergi'r cŵn sydd acw'n dangos
Fod llochesau'r cadno'n agos,
  Clywch y floedd sy'n crugo'r creigiau,
  Dacw'r cadno'n llamu'r rhiwiau,
I Gwmaman, i Gwmgwyngul,
A chŵn y Gelli yn ei ymyl:
  Rhy ddiweddar edifara
  Gadael cilfach Craig-y-Byllfa.

Gwelwch, ni wna nant na chlogwyn
Beri i Nimrod wyro mymryn;
  Leader, Guider, Topper, German,
  Fel yn hedeg drwy Gwmaman:
Ringwood, Famous, Countess, Collier,
Blucher, Stately, - am gyflymder
  Haeddant sylw yn ngherdd hela
  Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.

Gan mor gyflym y mae'r cwmni
'N gado ar ôl y coed a'r llethri,
  Y mae'r llethri fel yn neidio,
  A'r coedwigoedd fel yn dawnsio.
Gwelwch fel y mae'r helyddion
Yn neidio'r cae, yn rhydio'r afon:
  Hwy na hir y cofir hel
  Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.

Troes yn awr, am nadd a chysgod,
I'r Garreg Lwyd hen ffau llwynogod;
  Ond gwylwyr effro a chŵn yr Ystrad
  Yma dorent ar ei fwriad,
At Graig-y-Llyn cyfeiria'n brysur,
Ond prysurach ei erlidwyr;
  Rhy ddiweddar edifara
  Gadael cilfach Craig-y-Byllfa.

Clywch y floedd sy'n rhwygo'r entrych,
Mae'n carlamu Yng Nghwm Grefelych;
  At Bont Walbi hwylia'r cidwm,
  A thrwy'r coed wrth Aberpergwm;
Mae yng Nghwm Nedd, ond ofer iddo
Ddisgwyl hamdden i orphwyso:
  Rhy ddiweddar edifara
  Gadael cilfach Craig-y-Byllfa.

Helwyr, meirch, a chwn yn ymlid,
A'i troes yn ol, er cadw'i fywyd,
  At Graig-y-Llyn a'r Gorngoch eto,
  I'r Garreg Lwyd am le i ymguddio:
Methai gyrrhaedd ffau ddiogel, -
Dyna'r fonllef ar yr awel,
  "Daliwyd, daliwyd, daliwyd yma,
  Gadno cyfrwys Craig-y-Byllfa!"

Nid hyn yw'r cyfan - dacw'r cwmni
Wrth groesawgar fwrdd y Gelli,
  A gwydraid llawn, a chalon lawen
  Yn yfed "hedd a llwydd y nenbren":
Yfed "Teulu Blaen-y-corrwg,
A helwriaeth gwlad Morgannwg,"
  A phob gwron a fu'n hela
  Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.
Craig-y-Byllfa :: Craig y Bwllfa

John Blackwell (Alun) 1797–1840

(A Hunting Poem)
The breezes of the day are waking,
See the cheeks of the morning blushing,
  Do ye hear the sound
     of the horn of the hunt of the Grove
  Putting a tongue to the cliffs?
A crowd of hunters, dogs howling,
Everything as if shouting together,
  "Today is the day to catch
 The crafty fox of Craig-y-Byllfa!"

Yonder is the lively throng setting off,
And foremost in the army
  To be seen on his agile hunting steed is
  The noble man of the Grove,
And his companion, the boast of Blaen-y-Corrwg.
The honey and soul of the tribe of Maorgannwg;
  From valley to mountain, yonder is the throng
  Now beside Craig-y-Byllfa.

The yelp of the dogs is yonder showing
That the lairs of the fox are near,
  Hear the shout which is plaguing the rocks!
  Yonder is the fox leaping the hills,
To Cwmaman, to Cwmgwyngul,
Whith the dogs of the Grove beside him
  Too lately regretting
  Leaving the nook of Craig-y-Byllfa.

See, neither brook nor cliff shall
Cause Nimrod to veer for a moment,
  Leader, Guider, Topper, German,
  As if flying through Cwmaman,
Ringwood, Famous, Countess, Collier,
Blucher, Stately, - for speed
  They merit mention in the poem of hunting
  The crafty fox of Craig-y-Byllfa.

Since so fast is the company
Leaving behind the wood and the slopes,
  The slopes are is if jumping,
  And the copses as if dancing.
See how the jnters are
Jumping the field, fording the river.
  Longer than ever will be remembered the hunting
  Of the crafty fox of Craig-y-Byllfa.

He turned now for refuge and shadow
To the Grey Rock - the old lair of the foxes;
  But alert watchers and the dogs of the Estate
  Here break on his purpose.
To Craig-y-Llyn he heas hurriedly
But more hurriedly his pursuers:
  Too lately regretting
  Leaving the nook of Craig-y-Byllfa.

Hear the shout which is rending the sky,
It is galloping in Cwm Grefelych;
  To Walbi Bridge the rascal flies,
  And through the wood by Aberpergwm.
He is in Cwm Nedd, but in vain for him
To expect leisure to rest:
  Too lately regretting
  Leaving the nook of Craig-y-Byllfa.

Huntsman, steeds and dogs pursuing
And he turns back, in order to keep his life,
  To Craig-y-Llyn and the Corngoch again,
  To the Grey Rock for a placeto hide:
He would fail to reach the safe lair, -
There is the cry on the breeze,
  "Caught, caught, caught here, is
  The crafty fox of Craig-y-Byllfa!"

This is not all, - yonder is the company
By the welcoming table of the Grove,
  With full glasses and joyful hearts,
  Drinking the peace and success of the roofbeam
The dringing of the Family of Blae-y-corrwg,
And the chase of the land of Morgannwg,
  And every hero who had been hunting
  The crafty fox of Craig-y-Byllfa.
::

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~